Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ddylai’r llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth o bob math fod yn elfen ganolog ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. Ond ers yn rhy hir, rŷn ni’n gwybod mai dim ond y rheini sy’n gallu fforddio’r gwersi sy’n cael dysgu chwarae offeryn cerdd, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Ni ddylai’r un plentyn fod ar ei golled o achos diffyg arian. Fe ddylai pob plentyn, beth bynnag ei gefndir ac incwm ei deulu, gael manteisio ar addysg gerddoriaeth.
Mae’n bleser imi, felly, gael lansio ein cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer addysg gerddorol. Mae’r cynllun yn nodi bod gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol i gael ei sefydlu, sef un o brif ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu. Bydd £13.5 miliwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol a’u gwasanaethau cerdd dros y tair blynedd nesaf i sicrhau dyfodol cynaliadwy i addysg gerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd pob plentyn a pherson ifanc, o dair i 16 oed, yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn. Mae’n gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobl ifanc o bob cefndir yn cael gwneud y mwyaf o’n diwylliant cyfoethog, ein treftadaeth ni, a’n cymunedau ni, ledled Cymru a thu hwnt.
Mae ein seiliau ni ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wedi dechrau cael eu gosod yn barod. Y llynedd, fe gafodd swm sylweddol ei wario—£6.82 miliwn—ar brynu offerynnau cerdd ac offerynnau cerdd wedi eu haddasu er mwyn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel rhan o’r pecyn cymorth hwn, fe gafodd trwyddedau cerddoriaeth digidol eu trefnu ar gyfer gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol, a sesiynau dysgu proffesiynol i hyfforddi ein hymarferwyr cerdd ac i sicrhau bod yr addysgu a’r profiadau sy’n cael eu darparu yn gydnaws â Chwricwlwm Cymru.
Dros y misoedd diwethaf, rŷn ni wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws byd cerdd ac addysg, ysgolion a lleoliadau, a’r diwydiant creadigol. Rŷn ni wedi gwrando arnyn nhw ynghylch beth y gallwn ni ei wneud i helpu ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu am y llawenydd sydd yna mewn cerddoriaeth ac i roi profiad iddyn nhw o’r llawenydd hwnnw. Mae eu brwdfrydedd nhw ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu dysgwyr a’u lles, a’r trafodaethau buddiol a gonest am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth ddod dros y pandemig, wedi ein helpu ni i fod yn glir ynghylch beth ddylai fod yn greiddiol i wasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol.
Gyda cherddoriaeth yn un o ddisgyblaethau maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm a datganiadau o'r hyn sy’n bwysig y mae'n rhaid i’n hysgolion a’n lleoliadau eu dilyn yn y maes hwn i ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth ein dysgwyr, bydd y cysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau a fydd yn cyflawni amcanion y maes hwn yn cryfhau’r gwasanaeth. Bydd ei gysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau yn gwneud hyn wrth gyflawni maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm, gyda cherddoriaeth yn un o ddisgyblaethau’r maes hwn. Er mwyn i’n holl blant a phobl ifanc allu cael gwersi a phrofiadau cerdd o fewn ysgolion a’r tu allan iddyn nhw, bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn meithrin cysylltiadau cryfach â sefydliadau ac yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymuned gerdd ehangach. Dirprwy Lywydd, drwy weithio gyda’n gilydd, fe wnawn ni’n siŵr bod yna amrywiol gyfleoedd i’n dysgwyr gael creu cerddoriaeth a’i mwynhau ar hyd eu bywyd ym mhob cwr o Gymru, ble bynnag y mae eu hysgol neu eu lleoliad.