Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 17 Mai 2022.
Hoffwn i groesawu'r cyhoeddiad heddiw a diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog, am y datganiad. Mae cynnydd mewn llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd yn peri risg enfawr i gymunedau, i unigolion ac i fusnesau yng Nghymru. Mae'n iawn ac mae i'w groesawu bod lleisiau a phrofiadau'r bobl a'r busnesau ledled Cymru yn mynd i gael eu clywed, drwy adolygiad annibynnol, er mwyn inni ddysgu sut i ddiogelu Cymru rhag llifogydd yn y dyfodol, i ddiogelu ein cymunedau mwyaf agored i niwed ac i atal digwyddiadau dinistriol cysylltiedig pellach.
Mae cyhoeddiad enw Elwen Evans fel yr unigolyn a fydd yn arwain a chadeirio'r adolygiad annibynnol yn rhywbeth, rwy'n meddwl, sydd i'w groesawu'n fawr hefyd. O ystyried ei gyrfa helaeth, rwy'n sicr y bydd hi'n cyflawni adolygiad trylwyr a theg a fydd yn rhoi rhyw sicrwydd i gymunedau lleol. Weinidog, y sicrwydd hwnnw a'r elfen o gysur yw'r eitemau neu'r elfennau y buaswn i'n hoffi ffocysu arnyn nhw y prynhawn yma.
Mae'r hyn a oedd wedi digwydd yn ystod stormydd 2020 wedi trawmateiddio pobl o hyd, a dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi pan fo'n glawio yn drwm hyd heddiw. Heb sicrwydd o'r problemau sy'n gorwedd tu ôl i'r achosion o'r llifogydd yma, a heb ddatrysiadau cadarn, bydd y torment yma yn mynd ymlaen. Mae cynnydd yr adolygiad hwn, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen, ond allwch chi ddweud wrthym ni, plis, pa gymorth sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl y bobl hynny sydd wedi dioddef trawma ac effaith seicolegol niweidiol o achos llifogydd?
Rhywbeth a fyddai'n cynnig tawelwch meddwl ychwanegol fyddai systemau rhybuddio cynnar. Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatblygu, ariannu a chyflwyno systemau rhybudd cynnar fel y gellir rhybuddio cymunedau am lifogydd a thrychinebau naturiol cyn eu bod nhw'n digwydd. Byddai systemau o'r fath yn fendith, a byddwn i'n gofyn, plis, ichi, Weinidog, roi ymateb am y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym ni o ran cyflwyno'r systemau hyn a sut y byddan nhw'n cael eu hariannu.
Ac yn olaf, i droi nôl at yr arolwg a'r cylch gorchwyl, rwy'n falch bod yr adolygiad, sy'n digwydd oherwydd, wrth gwrs, dylanwad Plaid Cymru, yn adeiladu ar waith sydd wedi digwydd yn barod, gan gysoni'r holl argymhellion sydd wedi cael eu cyhoeddi yn barod. A allwch chi ddweud ychydig bach mwy am yr elfen hynny o'r cylch gorchwyl, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn. Sori, dwi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd gyda'r sŵn, so sori fy mod i wedi torri hanner ffordd drwodd yn fanna.