Part of QNR – Senedd Cymru ar 17 Mai 2022.
Mae crynodeb Llywodraeth Cymru o adroddiadau tair blynedd cyntaf y byrddau iechyd o dan adran 25E o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn rhoi dadansoddiad o'r modd y mae'r byrddau iechyd yn cynnal lefelau staff nyrsio. Cafodd hwn ei gyhoeddi ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2021.