2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i ganfod ac asesu anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58055
Mae ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yn hyrwyddo asesu a chynllunio cydweithredol i hwyluso'r broses o nodi ac ymyrryd yn gynnar. Mae cydlynwyr ADY a swyddogion arweiniol ADY y blynyddoedd cynnar yn helpu i sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu, ac mae'r gronfa datblygiad plant a Dechrau'n Deg yn ymateb i'r galw cynyddol am gymorth datblygiadol ychwanegol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae wedi bod yn wych ymweld â llawer o leoliadau blynyddoedd cynnar ar draws fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gwn eu bod yn falch o allu dychwelyd i drefniadau a gweithgareddau cyn COVID er budd y plant sy'n eu gofal. I lawer o rieni a disgyblion, gall ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn aml olygu dechrau'r daith ar gyfer asesu anghenion dysgu ychwanegol. Fel y gwyddom, mae cael staff hyfforddedig a systemau cymorth sy'n gallu nodi arwyddion cynnar o anghenion dysgu ychwanegol yn allweddol i ddarparu'r pecynnau cymorth gorau i'r plant hynny fel y gallant ffynnu mor gynnar â phosibl. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o ganlyniad i'r pandemig, cafwyd cyfnodau lle nad oedd plant yn gallu mynd i'r ysgol, yn anffodus, ac mae hyn yn sicr wedi effeithio ar ein gallu i asesu plant ar gyfer unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ysgolion wrth iddynt geisio dal i fyny â'r asesiadau hyn a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cwympo drwy'r bylchau mewn perthynas â chymorth anghenion dysgu ychwanegol oherwydd y pandemig?
Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gallu i asesu a chefnogi anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ym mhob rhan o'u taith addysg.
Y llynedd, dyfarnwyd pecyn adfer gwerth £10 miliwn gennym i awdurdodau lleol, a diben hwnnw oedd ariannu'r gwaith o ailintegreiddio disgyblion ag ADY yn ôl i'r ystafell ddosbarth yn dilyn y pandemig. Rydym wedi darparu grantiau i awdurdodau lleol—grant gweithredu—i gynyddu'r gallu i symud plant o'r system AAA i'r system ADY, ac i gefnogi staff i ddatblygu gwybodaeth am y ffordd orau o wneud hynny.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi ymrwymo cyllid i bob awdurdod lleol yng Nghymru am y tair blynedd nesaf i gefnogi'r gwaith o ddarparu cynlluniau datblygu unigol ar-lein, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth disgyblion ag ADY yn cael ei chofnodi, fel bod disgyblion ag ADY yn cael cymorth addas.
Diolch i'r Gweinidog.