Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 18 Mai 2022.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw, a diolch i Llyr am ei gadeiryddiaeth arbenigol, a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion. Mae llawer i'w drafod, ond roedd y neges glir a gawsom yn ymwneud â'r angen i'r cynllun morol cenedlaethol ystyried effeithiau cronnol datblygiadau. Credaf fod datganiad Gweinidog yr Economi ddoe ar ynni morol alltraeth yn tanlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai manteision economaidd a manteision ynni adnewyddadwy ddarparu manteision amgylcheddol hefyd. Felly, hyderaf y bydd y dull hwnnw'n llywio'r adolygiad sydd ar y ffordd o gynllun morol cenedlaethol Cymru.
Roeddwn yn rhan o'r pwyllgor blaenorol a fu'n ymchwilio i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn y Senedd flaenorol. Bum mlynedd ers yr ymchwiliad cychwynnol hwnnw, at ei gilydd mae ein hargymhelliad ynghylch nodi a dynodi parthau cadwraeth morol yn dal i fod heb gael sylw—ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gam nesaf y gwaith yn ystod y misoedd nesaf. Ond byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurder ynghylch beth yw parth cadwraeth morol. Beth sy'n digwydd ynddo? Beth na all ddigwydd ynddo? Mae'n ymddangos bod llawer o negeseuon croes yn hynny o beth. Mae'n amlwg mai un ohonynt, wrth symud ymlaen, fydd trwyddedu ynni adnewyddadwy. Felly, mae gwir angen rhywfaint o eglurder arnom yn hynny o beth.
Rwyf am droi at garbon glas. Ni fyddwn yn colli cyfle, wrth gwrs, i siarad am garbon glas. Mae ein cynefinoedd morwellt, morfa heli a gwymon, a'r holl garbon sy'n cael ei storio a'i amsugno gan amgylchedd morol Cymru yn llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei storio yn ein coetiroedd a'n tir. Ac roedd yna stori ofidus, onid oedd, am Brifysgol Bangor yn gosod morwellt a bod rhywun wedi ei ddinistrio mewn cyfnod byr iawn. Felly, efallai fod hynny'n cyd-fynd â fy nghwestiwn cynharach ynglŷn â beth yw parth morol gwarchodedig.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad i archwilio sut y gellir cynnal a gwella ein cynefinoedd carbon glas. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y rhaglen rhwydweithiau natur fel dull o wneud hynny, felly byddai'n ddefnyddiol iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen honno'n fuan. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun tystiolaeth carbon glas a rennir, a deallaf fod hwnnw'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Yn olaf, gofynnwyd i'r Llywodraeth nodi diben ac amserlen yr ymgynghoriad cyhoeddus ar lusgrwydo a threillrwydo môr-waelodol yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Sylwaf fod y Pwyllgor Deisebau wedi ystyried ymgyrch 'Rhowch y gorau i chwalu ein moroedd!' yn ddiweddar ac rwy'n sicr yn cydymdeimlo â barn y deisebydd. Mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, sy'n newyddion da, ond mae'n ymddangos bod yr amserlenni braidd yn niwlog. Unwaith eto, dylwn ddweud fy mod wedi eistedd ar bwyllgorau blaenorol y Senedd a fu'n annog cynnydd ar y mater hwn. Cofiaf ymgynghoriad drafft ar gêr llusg yn 2018. Ond i mi mae rhywbeth yn sylfaenol anghywir mewn gallu llusgo unrhyw beth ar hyd gwely'r môr, gan ddinistrio popeth sy'n bodoli yno. Ac rwy'n siŵr, pe bai hyn yn digwydd ar dir, pe baem yn dinistrio tir a bod pawb yn ei weld yn digwydd, byddai pobl yn gandryll, ac rwy'n pryderu nad yw pobl yn deall o gwbl beth mae llusgrwydo môr yn ei olygu mewn gwirionedd a'r niwed y mae'n ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ymrwymiad ac amserlen benodol mewn perthynas â hynny. Diolch.