Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 18 Mai 2022.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch ichi am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Iechyd meddwl plant a'r glasoed yw un o'r prif faterion y mae pobl ifanc yn ei ddwyn i fy sylw ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, roedd yn wych cynnal ein ffair pobl ifanc ar yr union bwnc hwn gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, lle y daeth ysgolion, disgyblion a grwpiau cymorth lleol at ei gilydd i drafod sut y gallwn wneud darpariaeth iechyd meddwl yn well i bobl ifanc yn ein cymuned. Oherwydd, fel gyda llawer o faterion, neu'r holl faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc, mae oedolion sy'n aml yn llawn bwriadau da yn rhagdybio beth sydd orau, ac nid felly y dylai fod. Dylai unrhyw benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl ifanc o leiaf fod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Gwn fod ein Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo'n llwyr i hyn. Roeddwn am ychwanegu hefyd fod un o'n Haelodau Senedd Ieuenctid o Ben-y-bont ar Ogwr, Ollie, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, am ddweud bod lleisiau a barn pobl yn cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio weithiau wrth wneud penderfyniadau, felly rydym am sicrhau bod hynny bob amser yn flaenoriaeth.
Credaf ei bod yn werth cofio hefyd am y rôl ganolog y credaf fod pobl ifanc wedi'i chwarae yn cyflwyno'r sgwrs am iselder a gorbryder i'n bywydau bob dydd. I bobl ifanc ar draws ein cymunedau y mae llawer o'r diolch am lawer o'r gwaith a wnaed i chwalu rhwystrau a'r cywilydd o siarad am iechyd meddwl, a gwn fod hyn yn flaenoriaeth i'n Haelod Senedd Ieuenctid dros Ben-y-bont ar Ogwr, Ewan Bodilly, a ddywedodd ei bod wedi bod yn hawdd i bobl ifanc deimlo eu bod wedi'u dieithrio ers y pandemig, a dim ond drwy ymgysylltu â phobl ifanc y bydd pethau'n gwella. Ac yn y ffair iechyd meddwl, dywedodd ein maer ieuenctid, Xander, fod pobl ifanc wedi bod yn galw am i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth ers gormod o amser, ond mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gwasanaethau ar gael a bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.
Hoffwn ddweud hefyd fy mod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd meddwl i bobl ifanc drwy ysgolion gyda'r dull ysgol gyfan. Mae ysgolion ar draws fy etholaeth eisoes yn gwneud y gwaith hwn, gydag Ysgol Gyfun Porthcawl yn gweithio gyda grwpiau cymorth iechyd meddwl lleol i ddadstigmateiddio gofyn am gymorth a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn gwybod lle i droi os oes angen. Ond dylid safoni hyn, a dylai pob plentyn ac unigolyn ifanc wybod lle i droi. Dylai pob plentyn gael yr offer i gael mynediad at gymorth pan fo angen, beth bynnag yw'r amgylchiadau.
Hoffwn orffen drwy ddweud nad oeddwn yn bwriadu siarad am hyn heddiw mewn gwirionedd, ond James, hoffwn ddweud hyn i gefnogi eich galwad am uned anhwylderau bwyta yng Nghymru, ac uned anhwylderau bwyta preswyl yn ddelfrydol. Roedd gennyf anorecsia nerfosa pan oeddwn yn 14 oed. Roedd yn gwbl frawychus i mi a fy nheulu, a fy ffrindiau a fy athrawon, a chefais sgwrs gyda fy mam am y peth ychydig fisoedd yn ôl—wythnosau yn ôl, mae'n ddrwg gennyf—pan oeddem yn gwneud y ddadl ar anhwylderau bwyta, oherwydd roeddwn am siarad amdano. A dywedodd fy mam rywbeth wrthyf nad oedd erioed wedi'i ddweud wrthyf o'r blaen, sef bod fy meddyg ymgynghorol pediatrig ar y pryd wedi ysgrifennu at fy nghwnselydd, a heb hyd yn oed ddweud hyn wrth fy rhieni—heb roi gwybod iddynt—fy mod ddeuddydd i ffwrdd o gael fy nerbyn i'r ward seiciatrig oedolion yn ysbyty dwyrain Morgannwg, pan oeddwn yn 14 oed. Byddent wedi fy nghloi mewn ward seiciatrig i oedolion yn ysbyty dwyrain Morgannwg. Ni fyddwn byth wedi dod allan. Ni fyddwn byth wedi dod allan. Felly, yr unig opsiwn arall ar y pryd oedd uned breswyl, a oedd ym Mryste, ac roedd yn llawn, ac roedd fy rhieni mor ofnus. A bod yn onest, rwy'n credu fy mod i mor sâl fel nad wyf yn meddwl fy mod i'n ofnus erbyn hynny; nid oeddwn yn gwybod beth oedd yn digwydd.
Fe wellais, ac rwy'n anghyffredin iawn. Os edrychwch ar yr ystadegau, mae gwella o hyn yn anghyffredin iawn, ac fe wnes i wella. Ac ni allaf ddweud yn iawn wrthych sut y gwnes i hynny, hyd yn oed yn awr. Ond roeddwn i eisiau dweud bod hynny 20 mlynedd yn ôl, ac nid oes gennym uned yng Nghymru o hyd. Ac yn fy nghymuned i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym Mental Health Matters Wales, a flwyddyn neu ddwy yn ôl cyfarfûm â Michaela yn Mental Health Matters Wales, ac roedd ganddi grŵp anhwylderau bwyta lle y gall pobl sy'n dioddef ohono, a'u teuluoedd hefyd, ddod at ei gilydd i gael cefnogaeth. Ac nid oeddwn erioed wedi siarad am hyn mewn gwirionedd, ac fe es i mewn ac fe ddaeth y cyfan allan, ac fe wnaethom ni chwerthin, ac rwy'n gwybod bod hynny'n swnio'n rhyfedd iawn, ond mae rhai pethau'n rhyfedd weithiau, yn enwedig rhai o'r pethau y byddwch yn eu gwneud pan fyddwch chi'n mynd drwy hyn. Ac fe wnaeth imi deimlo mor—. Yr hyn a âi drwy fy meddwl oedd, 'Duw, byddai'n dda gennyf pe baech chi wedi bod yno pan oeddwn i yr oedran hwnnw. Byddai'n dda gennyf be bawn i wedi cael hynny, byddai'n dda gennyf pe baech chi wedi bod yno i fy rhieni pan oeddwn i yr oedran hwnnw'.
Felly, Weinidog, gwn eich bod yn gwneud cymaint ar hyn. Gwn ein bod wedi siarad amdano o'r blaen hefyd, ac rwyf bob amser yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr, ond os oes unrhyw ffordd y gallwn gael uned anhwylderau bwyta preswyl yng Nghymru—fel bod mwy o le—fel nad oes raid i bobl symud i ffwrdd o'u cartref. Unwaith eto, yn 14 oed, nid wyf yn gwybod sut y byddwn wedi mynd i Fryste fel yna. Felly, ie—diolch.
Hoffwn orffen drwy ddweud wrth unrhyw un a phob unigolyn ifanc allan yno, fel y dywedaf wrthych bob amser, nid ydych ar eich pen eich hun—nid oes dim o'i le arnoch, mae cymorth ar gael, a gallwch ddod drwy hyn. [Cymeradwyo.]