Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 18 Mai 2022.
A gaf fi ddiolch i James am gyflwyno'r ddadl hon? Diolch yn fawr iawn, James. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Rwy'n siarad fel cyn-weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant a fu'n gweithio am oddeutu 25 mlynedd gyda phlant a phobl ifanc. Rhan o'r frwydr i mi oedd cael y plant hynny a'u teuluoedd i mewn i wasanaethau CAMHS.
Rwyf am gydnabod ychydig o bethau yng Nghymru y credaf eu bod wedi mynd yn dda. Rwy'n falch iawn o weld bod y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yn parhau i gael ei gyflwyno, oherwydd mae canolbwyntio ar atal ac amgylcheddau ysgol sy'n defnyddio dull wedi'i lywio gan drawma yn hynod bwysig i feithrin iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc. Ond rydym mewn lle anodd iawn. Rwy'n mynd i wrando ar weddill y ddadl i benderfynu sut y byddaf yn pleidleisio heno, oherwydd mae'n peri pryder gwirioneddol imi fod dau fater pwysig yma. Un ohonynt yw'r amser aros am CAMHS. Mae'n rhy hir o lawer, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog beth yw'r ffigurau gyda'r amseroedd aros, oherwydd nid wyf yn hollol glir beth ydynt. A chlywsom rai gan Laura Anne Jones yn y ddadl, ond darllenais ffigurau gwahanol y bore yma, felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog egluro beth yw'r amseroedd aros am bedair wythnos neu fwy.
Fy marn i yw bod arnom angen amrywiaeth eang o wasanaethau. Nid wyf yn siŵr fod angen gwasanaeth newydd drwyddo draw. Mae gennym wasanaethau da iawn. Mae'r gwasanaeth datrys argyfwng a thriniaeth yn y cartref yn darparu gwasanaeth cyflym yn y gymuned 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ond dim ond ar gyfer pobl ifanc dros 18 oed. Rydym yn sôn yma am gyrraedd y sefyllfaoedd hyn ymhell cyn hynny.
Credaf fod dau fater pwysig yn codi. Un ohonynt, fel y dywedais, yw'r rhestr aros. Yn fy mhrofiad i fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, mae'n llawer rhy hir. Os gallwch ddod i mewn yn gynnar, gallwch atal y plant a'r bobl ifanc hynny a'u teuluoedd rhag cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a dod yn blant sy'n derbyn gofal, o bosibl, sy'n sefyllfa ofnadwy, i feddwl mai dyna sy'n digwydd i lawer o blant a phobl ifanc.
Yn ail, hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaethau gwirfoddol a'r trydydd sector ledled Cymru. Mae yna rai anhygoel, ac yn fy mhrofiad i, mae'n llawer gwell gan bobl ifanc fynd at y gwasanaethau gwirfoddol hynny nag at wasanaethau statudol. Maent yn teimlo'n llawer mwy diogel yn troi at wasanaeth nad oes ganddo 'GIG' uwch ei ben. Mewn gwirionedd, mae angen inni weithio'n llawer agosach gyda'r gwasanaethau gwirfoddol. Ceir llawer ohonynt, fel Youth Shedz ym Mlaenau Ffestiniog, yr ymwelais â hwy yr haf diwethaf, Mind Aberhonddu, prosiect Amethyst yn Aberteifi, a Noddfa yn sir Benfro. Yn fy marn i, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y gwasanaethau hyn, a'u mapio er mwyn inni weld sut y gallwn greu capasiti pellach iddynt allu diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, a rhoi cyllid hirdymor cynaliadwy iddynt ac i weld a allant ddarparu'r dull 24/7, sydd, yn fy marn i, yn gwbl amhrisiadwy.
Rwy'n mynd i orffen gyda dyfyniad a glywais gan unigolyn ifanc: 'Y rhai sy'n gwneud i eraill chwerthin a gwenu sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd.' Rhaid inni ystyried hynny, a rhaid inni weld bod pobl ifanc yn dioddef yn dawel. Mae angen inni eu cyrraedd a'u helpu. Rwy'n credu mai drwy fath o wasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos y mae gwneud hynny, i roi cymorth i blant a theuluoedd ar yr adeg y maent ei angen, cyn ei bod yn rhy hwyr. Diolch yn fawr iawn.