Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na gwella, amddiffyn a chefnogi lles meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ac ailddatgan fy ymrwymiad droeon yn y Siambr hon, ac rwy'n dal yn benderfynol o'n gweld yn gwneud y cynnydd sydd ei angen i drawsnewid eu bywydau er gwell. Mewn gwirionedd, dyma'r union reswm y deuthum i mewn i'r Llywodraeth, yn dilyn pum mlynedd o ymgyrchu ar hyn yn y Senedd ddiwethaf.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn hyn o beth. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym, 'Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny.' Gall pob un ohonom helpu i herio'r naratif fod angen cymorth arbenigol ar bob unigolyn ifanc pan fyddant yn ei chael hi'n anodd. Ni fydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl ifanc, a dylai pob un ohonom yn y Siambr hon godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at y lefel briodol o wasanaethau, pan fo'i hangen arnynt a lle mae ei hangen arnynt.
Rwy'n llwyr gydnabod yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, ac fel y dywedais wrth ymyrryd ar gyfraniad Laura Anne Jones, roeddem yn cydymffurfio â'r targedau amseroedd aros cyn y pandemig, a dyna'n union pam y galwodd y pwyllgor plant blaenorol am ffocws o'r newydd ar ymyrraeth gynnar, oherwydd eu bod hwy—y pwyllgor a gadeiriais—yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar amseroedd aros.
Mae perfformiad amseroedd aros wedi dirywio'n sylweddol o lefelau cyn y pandemig, ond mae hynny yng nghyd-destun mwy o atgyfeiriadau a chleifion â lefel fwy difrifol a chymhleth o broblem yn cael eu gweld gan weithlu ymroddedig ond dan bwysau. Er bod amseroedd aros mewn rhai ardaloedd wedi cynyddu, mae byrddau iechyd yn rhoi sicrwydd bod rhestrau aros yn cael eu hadolygu'n glinigol yn rheolaidd, gyda chleifion yn cael eu blaenoriaethu ar sail anghenion clinigol.
Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd y bore yma yn dangos gwelliant cyson mewn amseroedd aros ers mis Rhagfyr, ac rwy'n croesawu hynny'n ofalus, ond nid wyf yn hunanfodlon o gwbl ynglŷn â'r heriau parhaus sy'n ein hwynebu. Ac a gaf fi ddweud wrth Jane Dodds fod yr holl ddata ar amseroedd aros yn cael ei gyhoeddi bob mis? Rwy'n falch o ddweud ein bod ym Mhowys yn cyrraedd y targed i weld 80 y cant o bobl ifanc o fewn pedair wythnos, ond mae'r sefyllfa'n amrywio yng Nghymru, yn enwedig gyda Chaerdydd a'r Fro yn ystumio'r darlun, gan fod mwy na 50 y cant o'r bobl ifanc sy'n aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Fe ildiaf i Darren Millar.