Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Mai 2022.
Diolch, Prif Weinidog. Mae rhieni i ddau blentyn anabl yn fy rhanbarth wedi cysylltu â fi yn sgil eu hanhawster i sicrhau gofal plant cymwys. Mae'r plant wedi bod yn mynychu meithrinfa Dechrau'n Deg, ble mae cefnogaeth gymwys ar gael, ond nawr eu bod dros bedair oed roedd disgwyl i'w rhieni dalu tair gwaith yn fwy am ofal dros wyliau'r ysgol na'r hyn fyddai plant heb anghenion ychwanegol yn ei dalu. Yn lle £44, roedd y gofal yn costio £146 y plentyn, cyfanswm o £292 y dydd, cwbl anfforddiadwy. Yn dilyn pwysau gan fy swyddfa i a'u gweithiwr cymdeithasol, maen nhw wedi clywed y bydd cymorth o ryw fath ar gael gan banel blynyddoedd cynnar aml-asiantaeth Castell-nedd Port Talbot. Ond mae'r wybodaeth am gefnogaeth wedi bod yn anodd iawn i'w chanfod, ac mae grwpiau sy'n cefnogi plant anabl yn fy rhanbarth yn dweud wrthyf fod diffyg gofal cymwys a fforddiadwy yn broblem gyffredin a hirhoedlog sy'n creu anghydraddoldeb mawr. Rwy'n falch o weld bod adolygu'r gwasanaethau ar gyfer plant a nodi'r rhwystrau o ran cefnogaeth yn flaenoriaeth yn strategaeth anabledd dysgu newydd y Llywodraeth, ond sut byddwch chi'n sicrhau bod cefnogaeth sydd yn ddirfawr ei hangen yn hygyrch ac ar gael nawr i rieni plant ag anableddau?