Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 24 Mai 2022.
Mae pobl ag anabledd dysgu yn dioddef ynysigrwydd mwy sylweddol oherwydd camddealltwriaeth rhwng lleoliadau gofal preswyl a gwasanaethau byw â chymorth pan fo pobl yn cael cymorth o fewn eu tenantiaethau eu hunain. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffyrdd y bydd pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd/gofalwyr yn ganolog i'r gwaith o gynllunio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw? Diolch.