Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 24 Mai 2022.
Llywydd, rwy'n deall yn iawn pan fydd athrawon yn dweud efallai nad oes ganddyn nhw hyder i wybod sut i ymateb yn yr hyn sy'n feysydd cymhleth, a phryd y gallech fod yn pryderu y byddech yn dweud y peth anghywir yn anfwriadol ac ymateb yn anghywir, a bod angen i chi gael gwell gwybodaeth a hyfforddiant er mwyn sicrhau y gallwch wneud hynny. Mae'n rhan o'n bwriad fel Llywodraeth i sicrhau y gall yr holl staff rheng flaen, nid yn unig mewn addysgu ond mewn mannau eraill, gael hynny, fel y gellir mynd i'r afael â'r mater o hyder.
Rwy'n ymateb â llai o gydymdeimlad i fater amser. Nid yw ymdrin ag ymddygiad hiliol neu ymddygiad bwlio yn rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn ychwanegol, yn ogystal â'ch swydd arferol, a bod angen awr arall arnoch ar ddiwedd y dydd i wneud hynny; mae'n rhan o'r hyn y mae athro yn ei wneud drwy'r amser ym mhob ystafell ddosbarth bob dydd yng Nghymru. Rhaid iddo fod yn rhan o'r ffordd y byddem yn disgwyl i unrhyw un sy'n wynebu rhywbeth sy'n amlwg yn annerbyniol ac na ddylai fod yn digwydd—rhaid iddyn nhw fod mewn sefyllfa lle gallen nhw ymateb iddo fel y bydd yn digwydd o'u blaenau nhw. Dyna'r math o hinsawdd yr ydym eisiau ei chreu yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru, pryd y mae pawb yn gallu cael yr amgylchedd diogel a chefnogol hwnnw, lle mae ein holl bobl ifanc yn teimlo'n hyderus i fod yno, lle mae athrawon yn barod i ymyrryd pan fo angen iddyn nhw wneud hynny, er mwyn unioni pethau pan fyddan nhw'n gweld pethau'n mynd o chwith. Dylai hynny gael ei ymgorffori drwy'r diwrnod ysgol cyfan o'r dechrau i'r diwedd, ac nid wyf yn credu ei bod yn bosibl cael dadl ynghylch cael digon o amser i'w wneud.