Argyfwng Hinsawdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:27, 24 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, wrth wraidd y gyllideb tair blynedd a gymeradwywyd gan y Senedd hon, mae buddsoddiad cyfalaf o £1.8 biliwn ar gyfer creu coedwig genedlaethol, cynnal bioamrywiaeth, datgarboneiddio tai, blaenoriaethu ynni adnewyddadwy ac atal llifogydd. Mae'r rhain ymhlith y camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.