Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 24 Mai 2022.
Diolch. [Torri ar draws.] Ie, dilynwch hynny, ie. Ymhlith ei rhagflaenwyr, ni all Elisabeth II honni mai hi sydd wedi treulio'r cyfnod hwyaf yng Nghymru—fe all dau Harri ac un Edward, a aned yma mewn gwirionedd, frwydro am y goron benodol honno—ond y hi, yn ddi-os, yw'r frenhines Brydeinig sydd wedi ymweld â Chymru amlaf, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai o'r achlysuron hynny. Hyd yn oed ar y dechrau, roedd ein cenedl ni yn bwysig ym mywyd y Frenhines anfwriadol hon. Yn ystod y rhyfel, mae haneswyr yn dweud wrthym y lluniwyd cynlluniau i dawelu cenedlaetholdeb Cymreig drwy feithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru ag Elisabeth. Fe wrthodwyd ei phenodi hi'n gwnstabl castell Caernarfon am fod hynny'n anymarferol yn ddaearyddol, ac roedd ei gwneud hi'n noddwr i'r Urdd yn cael ei ystyried yn ddewis rhy radical, felly bu'n rhaid iddi hi wneud y tro â chael ei sefydlu i'r Orsedd, yn 20 oed, gan yr archdderwydd ar y pryd, Crwys.
Cynhaliwyd ymweliad swyddogol cyntaf Elisabeth â Chymru ar 28 Mawrth 1944. Fe ddigwyddodd hyn ar y diwrnod y pleidleisiodd ASau yn San Steffan i dalu'r un faint i athrawon, boed yn ddynion neu fenywod, carreg filltir bwysig yn y mudiad tuag at gydraddoldeb sydd wedi bod yn un o'r edau niferus a fu'n rhan o dapestri bywyd a theyrnasiad hir Elisabeth II. Roedd hi'n ddarpar frenhines, oedd, ond fe wrthodwyd yr union gydraddoldeb hynny iddi hi ar y dechrau; yn y dyddiau cyn ei hymweliad â Chymru, roedd deiseb gan awdurdodau lleol Cymru, yn yr hyn a elwid yn Blaid Seneddol Cymru, i'w chyhoeddi hi'n Dywysoges Cymru. Ond fe wrthodwyd yr hawl honno iddi, oherwydd ar y pryd ni allai menyw fod yn ddim mwy nag etifedd tebygol, ac nid yn etifedd gweladwy.
Mewn ymateb i gael rhyddid dinas Caerdydd, mynegodd y Dywysoges Elisabeth fod ganddi hi gysylltiad personol iawn â Chymru serch hynny. Mae'n ddigon posibl ei bod hi'n dwyn i gof y Bwthyn Bach—model cwbl weithredol o dŷ oedd hwnnw a gyflwynwyd iddi hi oddi wrth bobl Cymru ym 1932, ar ei phen-blwydd yn chwech oed. Roedd wedi'i leoli yn Windsor Great Park, ac roedd yn cynnwys cegin gyda stôf ac oergell, ac ystafell fyw â'r enw Siambr Fach, gyda goleuadau trydan a ffôn a oedd yn gweithio, dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi yn cynnwys dŵr poeth ac oer a hyd yn oed rheil gwres ar gyfer tyweli. O dan amgylchiadau'r cyfnod hwnnw gartref yng Nghymru, fe fyddai'r model hwn o fwthyn wedi ymddangos yr un mor balasaidd â Windsor ei hun.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, a hithau newydd ei choroni'n Frenhines Elisabeth, ad-dalodd ein haelioni ar y cyd drwy agor y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yn ffurfiol, lle'r oedd ei thad-cu, y Brenin Siôr V, 44 mlynedd yn gynharach, wedi gosod y garreg sylfaen; rhywbeth araf a thrafferthus y bu adeiladu cenedl yng Nghymru erioed. Fe ddisgrifiodd hi fod y llyfrgell wedi cadw
'cymeriad unigryw aelod bach ond unigol o fy nheulu i o genhedloedd', teulu a oedd, o dan ei stiwardiaeth hi, yn trawsnewid ei hun yn gyflym o fod yn Ymerodraeth i fod yn Gymanwlad o wledydd annibynnol—statws yr ydym ni'n gobeithio, yn ein plaid ni, y bydd Cymru yn ei fwynhau hefyd ryw ddiwrnod.
Efallai mai'r cysylltiad mwyaf arwyddocaol a hirhoedlog a fu rhwng Cymru a'r Frenhines oedd yr un a dyfodd o'i chydymdeimlad, fel cyfeiriwyd ato eisoes, yn dilyn trychineb Aberfan. Roedd hwnnw'n achlysur prin pan adroddwyd ei bod deigryn wedi llifo ohoni yn gyhoeddus. Dywedodd un fam wrth ohebydd teledu:
'Rwy'n cofio'r Frenhines yn cerdded trwy'r mwd. Roedd hynny'n teimlo fel ei bod hi wedi bod gyda ni o'r dechrau.'
Nid anghofiodd y Frenhines Elisabeth Aberfan erioed. Fe ymwelodd hi ym 1973 i agor y ganolfan gymunedol newydd, ac eto ym 1997 i nodi deng mlynedd ar hugain ers y trychineb.
Llywydd, mae gennym ni yn y Senedd reswm arbennig dros gydnabod swyddogaeth y Frenhines ym mywyd Cymru. Roedd ei hagoriad cyntaf hi o'n Senedd yn dilyn yr etholiadau cyntaf ym 1999 yn tanlinellu, drwy ei phresenoldeb hi, arwyddocâd y dechreuad newydd hwnnw ar ein taith ddemocrataidd genedlaethol—yn groes i ddymuniadau Prif Weinidog y DU ar y pryd, mae'n ymddangos. Nawr, ar drothwy dod i amlygrwydd fel cenedl gwbl hunanlywodraethol, mae Cymru wedi trawsnewid y tu hwnt i bob disgwyl o'i chymharu â'n hamgylchiadau ym 1952—gwlad heb gyfalaf, heb sôn am Senedd. Wedi ei naddu yn y Jiwbilî hon, felly, y mae ein taith ninnau hefyd o'r Siambr fach i Siambr fwy, oherwydd ein hanes ni, yn rhannol o leiaf, yw ei stori hi hefyd.