Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 24 Mai 2022.
A minnau'n un a oedd yn rhan o orymdaith gwisg ffansi yn ein pentref lleol i ddathlu'r Jiwbilî Arian yn ôl ym 1977—ni ddyweda i beth oeddwn i'n ei wisgo—[Torri ar draws.]—prin yr oeddwn i'n meddwl y byddwn i, yn 2022, yn sefyll mewn siwt a thei yn myfyrio ar deyrnasiad 70 mlynedd o hyd sydd wedi ennyn anwyldeb i'w Mawrhydi'r Frenhines ym mhob sector o gymdeithas, byddwn i'n ei awgrymu. Rwy'n deall y gallai fod gweriniaethwyr a brenhinwyr mewn democratiaeth, ond ni all neb ddweud mewn gwirionedd nad yw'r Frenhines wedi ennill parch y wlad hon at y ddyletswydd gyhoeddus a'r gwasanaeth cyhoeddus y mae hi wedi ei rhoi ar hyd ei theyrnasiad cyfan. Ac mae hi'n ffaith, fel crybwyllodd y Prif Weinidog, ei bod hi wedi cael gwasanaeth 14 o Brif Weinidogion, wedi gweld 13 o Arlywyddion yn UDA—dim ond un Arlywydd ni wnaeth hi ei gyfarfod; sef Lyndon Johnson—ac mae 10 Arlywydd Ffrainc wedi cwrdd â'i Mawrhydi'r Frenhines. Mae hi wedi bod ar 152 o ymweliadau gwladwriaethol. Bu pum Pab yn ei hamser hi, ac yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y Senedd hon, mae hi wedi dod ar bedwar achlysur ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd.
Bydd llawer o'r Aelodau yn cydnabod nad oeddwn i yma ym mis Hydref pan ddaeth hi i agor y Senedd ar gyfer tymor mandad cyfredol y Senedd, ond wrth ei gwylio ar y teledu, i weld ei hwyneb a'r pleser gwirioneddol yr oedd hi'n ei gael—ac rwy'n credu y byddai'r Llywydd yn eilio hyn—y pleser gwirioneddol yr oedd hi'n yn ei gael drwy fynd o gwmpas yn cyfarfod nid yn unig â'r Aelodau, ond y grwpiau cymunedol a oedd wedi ymgynnull i fyny'r grisiau—nid sioe oedd hynny, roedd yna gynhesrwydd a phleser gwirioneddol o fod yma yng Nghymru ac yn y lle hwn yng nghartref democratiaeth Cymru, i'w agor am ei dymor ei swydd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni fod yn hynod falch ohono, fod gennym ni frenhines sy'n cydnabod bod y wlad yn newid a bod y frenhiniaeth yn newid gyda'r wlad er mwyn bod yn berthnasol.
Mae hi'n ffaith, pan aned y Frenhines ym 1926, nad hi oedd yr etifedd, nad hi oedd y dewis naturiol i'w chodi i deyrnasu, ond drwy ymddiorseddiad 1937, fe newidiodd ei bywyd cyfan a bywyd ei theulu y tu hwnt i bob rheswm. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel bu'n gwasanaethu'n weithredol gyda'r Gwasanaeth Tiriogaethol Atodol, ac yna yn y pen draw, ar ôl cyfnod byr, byr gyda'i gŵr ym Melita, arweiniodd afiechyd ei thad—y Brenin Siôr VI, yn amlwg—at farwolaeth gynamserol Ei Fawrhydi a'r Frenhines yn dod i'r orsedd ym 1952.
Rydym yn edrych yn ôl ar gyfnod pan fyddai'n rhaid trosglwyddo newyddion o'r fath drwy gyfrwng y telegraff, yn hytrach na phwyso botwm yn gyflym a'r rhyngrwyd, neu godi eich ffôn a chael y newyddion drwy glicio swits. Rydym ni hefyd yn gweld y trenau stêm yn gwibio o gwmpas yn yr hen ffilmiau du a gwyn ac erbyn hyn mae gennym ni drenau trydan. Rydym ni hefyd yn gweld y byd ar adeg pan oedd hi'n beth mawr i hedfan o amgylch y byd. Heddiw mae'r byd ar agor i bob dyn, menyw a phlentyn, os ydyn nhw'n dymuno mynd o'i gwmpas, ac yn y pen draw rydym yn gwthio'r ffiniau i'r gofod. Ac mae yn bwysig myfyrio bod hyn i gyd wedi digwydd yn ystod teyrnasiad o 70 mlynedd.
Mae hi'n werth myfyrio ar y ffaith bod gan y Frenhines le mawr yn ei chalon i Gymru, yn enwedig o ran y nawdd y mae hi wedi ei roi i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i Undeb Rygbi Cymru, a nifer o elusennau a sefydliadau, y mae hi wedi helpu i godi eu proffil, ac wedi dangos diddordeb brwd yn y sefydliadau hynny. Ac fel y crybwyllodd y Prif Weinidog, un drasiedi ymysg eraill oedd trychineb Aberfan a welodd hi ei hun ac mae hi wedi dangos diddordeb mawr yn y ffordd y mae'r cymunedau hynny wedi eu hadfer, heb anghofio am friwiau'r damweiniau a'r trychinebau hynny sydd wedi digwydd i'r cymunedau hynny, lle bynnag y bônt yng Nghymru.
Mae hefyd yn werth myfyrio ar ei chysylltiad cryf â'r lluoedd arfog, yn gadlywydd yn bennaf, ac, yn amlwg, mae Cymru wedi bod â rhan weithredol wrth anfon mwy, yn gymesur, na'i phoblogaeth i'r lluoedd arfog hynny, boed yn y fyddin, y llynges neu'r Awyrlu Brenhinol, a'r cysylltiad cryf y mae llawer o bobl yn ei deimlo â'r teulu brenhinol sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, o ba gymunedau bynnag y maen nhw'n dod. Ac fel crybwyllodd un o'r Aelodau y prynhawn yma, ac y tynnodd yr Aelod dros Orllewin Clwyd sylw ato, un o nodweddion hirhoedlog y Jiwbilî hon fydd Wrecsam yn dod yn ddinas, a dyna rywbeth y gallwn ni uniaethu ag ef fel achos arall i ddathlu, â'r holl ddinasoedd eraill a gafodd eu sefydlu mewn Jiwbilîs eraill, megis y Jiwbilî Aur, y Jiwbilî Arian ac yn amlwg y Jiwbilî Blatinwm yr ydym ni'n ei dathlu yn 2022.
Mae hi hefyd yn werth myfyrio ar y ffaith bod ffydd yn rhan fawr o gyfansoddiad y Frenhines, ac er mai hi yw Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Loegr, mae hi yn cydnabod nad y wlad yr oedd y Deyrnas Unedig yn y 1950au yw'r wlad yn 2022, a'n bod ni'n gymdeithas aml-ffydd, sy'n rhywbeth y mae hi ac eraill yn ei ddathlu yn helaeth. A'r cyfansoddiad hwn o Brydain gyfoes yr ydym ni'n ei ddathlu bob dydd.
I mi, rhywbeth sy'n amlwg iawn yn ystod yr argyfwng COVID diweddar oedd anerchiad Ei Mawrhydi i'r wlad ym mis Ebrill 2020, pan ddywedodd hi, 'Fe wnawn ni gyfarfod eto.' Yn y pen draw, ar yr adeg honno, pan oedd tywyllwch gwirioneddol, ac roedd pobl yn edrych dros y dibyn yn ôl ym mis Ebrill 2020, siaradodd yn ddidwyll a theimladwy am ei chred y byddai'r wlad hon yn dod drwy'r argyfwng hwnnw ac y byddem ni'n gweld amseroedd gwell. Diolch byth, rydym ni wedi dod drwy'r argyfwng ac rydym ni yn gweld amseroedd gwell, ond nid ydym yn anghofio'r rhai a gollodd anwyliaid a'r aberth enfawr y mae llawer wedi gorfod ei wneud.
Mae hi'n ffaith hefyd fod y teulu brenhinol eu hunain wedi gorfod dioddef llawer o drychinebau, a llawer iawn o darfu ar ei bywydau. Ond rydym ni yn credu yn angerddol bod y Frenhines a'r profiad y mae hi wedi ei ennill dros y 70 mlynedd wedi cofio yr hyn sydd orau am Gymru a'r hyn sydd orau am Brydain ym mhob penderfyniad y mae hi wedi eu gwneud dros y wlad hon, ein cenedl unedig ni, gan sefyll yn dalsyth yn y byd.
Rwy'n ymuno â'r Prif Weinidog i gymeradwyo'r cynnig ar y papur trefn y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod yn iawn y bydd y penwythnos o ddathlu sydd ar ddod yn cael ei nodi mewn sawl cwr o'r wlad hon, nid yma yng Nghymru yn unig, nid yma yn y Deyrnas Unedig yn unig, ond ar draws y Gymanwlad yn y cenhedloedd y mae'n hi'n ben arnyn nhw ac yn eu harwain gyda'r fath falchder ac angerdd. Ac nid oes gen i unrhyw betruster, ar ran fy ngrŵp i a'r blaid, wrth gymeradwyo'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw.