Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 24 Mai 2022.
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn ac am roi'r spoiler am raglen Newyddion S4C heno. [Chwerthin.] Dwi'n siŵr y bydd y viewing figures yn mynd trwy'r to yn sgil yr awgrym hwnnw.
Wel, roedd e'n brofiad arbennig i fod yn Ysgol Llanhari y bore yma. Diolch iddyn nhw am eu croeso ac am eu gwahoddiad i fod yno gyda chi hefyd, Huw. Ces i'r cyfle, fel gwnaethoch chi ddweud, i gael sgwrs gyda dau athro oedd wedi cymhwyso yn y blynyddoedd diwethaf ac yn mwynhau eu gyrfaoedd cynnar yn Ysgol Llanhari. Gwnes i ofyn iddyn nhw beth oedd wedi'u hysgogi nhw i ddewis gyrfa fel addysgwyr, a chlywed ganddyn nhw y brwdfrydedd yma, y gallu maen nhw'n ei gael i gael cymaint o impact ar fywydau pobl ifanc ac i sicrhau eu bod nhw'n cael yr addysg orau bosib. Ac i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn gyfle mor gyffrous i ychwanegu hefyd at ddealltwriaeth ein pobl ifanc ni, yn aml iawn o gefndiroedd lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd, yn amlach na pheidio, ond hefyd agor eu gorwelion nhw i ddiwylliant y Gymraeg hefyd, ac roedd eu clywed nhw'n sôn am hynny yn ysgogiad i fi hefyd. Felly, petaswn i'n cael y sgwrs gydag unrhyw berson arall yng Nghymru, buaswn i'n adleisio beth a glywais i ganddyn nhw y bore yma. Mae e'n ddewis pwysig, un o'r dewisiadau mwyaf pwysig gall unrhyw un ei wneud, dwi'n credu, dewis gyrfa mewn ysgol a dysgu.
A hefyd, roedd e'n brofiad arbennig i weld cymaint o waith roedden nhw wedi'i wneud fel ysgol arloesol, yn arwain y ffordd ar lawer o'r approaches cwricwlwm pwysig hynny. Ac rwy'n gwybod gwnaeth e fwynhau cystal ag y gwnes i, y cyfle i ganu, ac roedd e'n dawnsio yn arbennig iawn hefyd. Felly, os bydd unrhyw un yn edrych ar Newyddion heno, fe gân nhw'r cyfle i weld Huw Irranca-Davies yn dawnsio hefyd. [Chwerthin.]