Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 24 Mai 2022.
Ond er gwaethaf hyn i gyd, gwyddom y gallai ein system gyfiawnder fod gymaint yn well. Ni fydd neb yma wedi anghofio geiriau'r Arglwydd Thomas fod pobl Cymru'n cael eu siomi gan y system gyfiawnder yn ei chyflwr presennol. Roedd comisiwn Thomas, wrth gwrs, yn archwiliad digynsail o gyfiawnder yng Nghymru. Er bod llawer wedi'i wneud gennym ni mewn ymateb i hynny, mae llawer mwy i'w wneud.
Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi dogfen o'r enw 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â'r presennol, y dyfodol agos a'r tymor hwy. Diben y cyhoeddiad yw tynnu llinell o dan gecru plwyfol cyfansoddiadol y gorffennol a rhoi'r gorau i ofyn y cwestiwn, 'Pwy ddylai redeg y system gyfiawnder?' Yn hytrach, gofynnwn beth y mae angen i ni ei wneud i sicrhau gwell cyfiawnder yng Nghymru.
Felly, does arnaf i ddim eisiau ailadrodd methiannau'r gorffennol, ond mae angen i ni gydnabod maint yr heriau sy'n ein hwynebu: epidemig o drais yn erbyn menywod; diffyg gwasanaethau cymorth cyfreithiol pan fo taer angen amdanyn nhw, a gwarafun i lawer o bobl, y rhai mwyaf agored i niwed yn aml, fynediad i'r cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu; cymunedau lleiafrifoedd ethnig y mae eu perthynas â'r heddlu yn aml yn fregus; a rhannau o'n proffesiwn cyfreithiol yn ei chael hi'n anodd goroesi a rhai o'r rhannau tlotaf o Gymru yn troi yn ddiffeithwch o ran gwasanaethau cyngor cyfreithiol. Yr her i ni yw: beth rydym yn ei wneud yn ei gylch?
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith cydweithredol da sy'n digwydd nawr. Hyd yn oed o fewn y trefniadau cyfyngol presennol, mae meysydd lle yr ydym ni wedi llwyddo i ymgorffori ein dull o ymdrin â chyfiawnder sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae sefydliadau partner wedi ymateb i'r her lle gallan nhw, megis y gwaith ar y glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder menywod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n croesawu'r cyhoeddiad am safle ar gyfer treialu canolfan breswyl i fenywod—y tro cyntaf y byddwn yn gallu lletya menywod sy'n cael dedfrydau o garchar yng Nghymru. Dylai Cyngor Cyfraith Cymru sydd newydd ei sefydlu fod yn enghraifft arall o waith partneriaeth cryf, i nodi cyd-flaenoriaethau ar gyfer y sector cyfreithiol yn ei gyfanrwydd, ac i weithredu fel corff i fynd i'r afael â nhw.
Mae'r cyhoeddiad hefyd yn nodi'r pethau yr ydym yn bwriadu eu gwneud gyda'n pwerau presennol, megis deddfu i greu gwasanaeth tribiwnlys un haen sy'n annibynnol yn strwythurol. Bydd hon yn garreg filltir bwysig ym maes cyfiawnder Cymru, gan gynnwys ein haen apeliadol gyntaf erioed a rhan gynyddol i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
Hoffem i'r cyhoeddiad sbarduno sgwrs ac ymgysylltiad â phobl sydd ag arbenigedd mewn unrhyw agwedd ar gyfiawnder, boed yn wleidyddion, academyddion, ymarferwyr, sefydliadau anllywodraethol neu bobl sydd â phrofiad personol o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder. Dylwn ddweud ein bod wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU i drafod yr argymhellion niferus hynny o gomisiwn Thomas sydd wedi'u cadw'n ôl ar hyn o bryd, ond roedd y sgyrsiau hynny'n araf yn dechrau, ac maen nhw, unwaith eto, wedi arafu. Mae'n ymddangos bod ymadawiad Robert Buckland yn gyntaf fel Yr Arglwydd Ganghellor ac yna'r Arglwydd Wolfson wedi dileu pob ysgogiad. Ac felly, yn anffodus, deuwn i'r casgliad unwaith eto fod angen newid strwythurol er mwyn sicrhau maint y diwygiadau angenrheidiol.
Yn bwysicaf oll efallai, mae'r cyhoeddiad heddiw'n dangos sut na ellir gwella'r system gyfiawnder draddodiadol yn ystyrlon heb ddarparu cyfiawnder cymdeithasol. Mae hynny'n golygu mynd i'r afael â heriau mwyaf cymdeithas, gan gynnwys tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y cenedlaethau. Mae'n golygu mynd i'r afael â chasineb, hiliaeth, casineb at fenywod a gwahaniaethu. Mae'n gofyn am ymyrraeth gynnar ac ymateb yn gyflym, yn gynhwysfawr ac yn dosturiol i drawma plentyndod a phrofiadau niweidiol. Dim ond drwy gydgysylltu polisi ar gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru y gallwn ni ganfod ffyrdd gwirioneddol effeithiol o leihau troseddu, neu yn wir leihau nifer y teuluoedd sy'n chwalu, neu'r holl achosion eraill sy'n rhoi pwysau aruthrol ar ein system gyfiawnder. Mae hwn yn fodel sylfaenol wahanol i wella'r system gyfiawnder ac mae angen ei gydgysylltu. Mae'r polisi dedfrydu presennol, sy'n cael ei redeg o Whitehall, sy'n rhoi pwyslais sylweddol ar gosbi, atal troseddau a charcharu pobl, yn wrthgynhyrchiol ac yn methu. Felly, credwn fod datganoli cyfiawnder nid yn unig yn angenrheidiol, ond mae'n anochel ac mae gennym ni ddyletswydd i baratoi ar ei gyfer. Dyna ail ran y sgwrs yr hoffem ei sbarduno heddiw.
Gwyddom y gallai'r system gyfiawnder, wedi'i chyfuno â'r holl wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill, sicrhau gwell canlyniadau i Gymru. Gwyddom yr egwyddorion a fyddai'n ein harwain, ac rydym ni wedi nodi yn y cyhoeddiad rai o elfennau craidd y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, ond does gennym ni ddim yr atebion i gyd. Rhaid i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol gael eu cyd-gynhyrchu gyda'r holl elfennau hynny o wasanaethau cyhoeddus a'r system gyfiawnder. Felly, dyma ddechrau sgwrs newydd ar gyfer newid, diwygio a gwella yr hoffem ddechrau arni gyda'r cyhoeddiad heddiw. Gobeithiaf y bydd pob Aelod yn ymddiddori yn y cyhoeddiad hwn, a gobeithio y gallwn i gyd ymdrin â hynny yn yr ysbryd a fwriedir. Credwn nad yw datganoli cyfiawnder yn nod ynddo'i hun, ond ei fod yn ddiwygiad angenrheidiol. Nid sgwrs am bwerau ydyw; mae'n sgwrs am yr hyn a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Mae gennym ni gyfrifoldeb i'w gyflawni cystal ag y gallwn ni i'n cymunedau ac i bobl Cymru. Diolch, Llywydd.