Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 24 Mai 2022.
Fe hoffwn i hefyd grybwyll ymdrechion personol y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sy'n eistedd gyda mi ar is-bwyllgor y Cabinet, ac sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau gwaith partneriaeth cryf a hanfodol dros y blynyddoedd. Roeddem yn arbennig o falch o'r gwaith partneriaeth eithriadol dros COVID-19, pan oedd cydweithio yn elfen hanfodol o gadw'r llysoedd yn weithredol ac yn ddiogel rhag COVID.