Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 25 Mai 2022.
Rwy’n falch o weld bod Mark Isherwood yn hyderus y daw rhagor o gymorth cyn bo hir gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n gysur i'w etholwyr, cyhyd â'i fod yn wir, a chyhyd â'i fod yn dod yn ddigon buan i'w cefnogi gyda'r heriau y maent yn eu hwynebu. A do, rydym wedi cael setliad gwell yn y flwyddyn ariannol hon, ond gadewch inni gofio bod yr argyfwng costau byw yn golygu bod ein cyllideb dros y tair blynedd nesaf bellach yn werth £600 miliwn yn llai na phan bleidleisiodd y Senedd hon ar y cynlluniau cyllidebol gwta dri mis yn ôl. Felly, credaf fod hynny'n dangos lefel yr her sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, a'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny pan fyddant yn rhoi’r cymorth uniongyrchol y mae Mark Isherwood yn ei ragweld cyn bo hir.
Rydym yn gwneud popeth a allwn o fewn ein hadnoddau i gefnogi pobl. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod wedi nodi y byddwn, unwaith eto, yn darparu'r £200 drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a oedd yn llwyddiant ddechrau'r flwyddyn hon. Byddwn yn ei ddarparu unwaith eto ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. A gallaf gadarnhau ein bod yn awyddus i archwilio sut y gallwn ei ehangu yn awr i grŵp ehangach o bobl er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cadw eu cartrefi'n gynnes dros y gaeaf. Ac yn y rhanbarth y mae Joyce Watson yn ei gynrychioli—gan mai hi a'n cyflwynodd i’r cwestiwn hwn y prynhawn yma—gallaf gadarnhau bod 16,105 o geisiadau wedi’u talu ar ddechrau’r flwyddyn, a byddwn yn disgwyl i'r ffigur hwnnw fod yn fwy erbyn diwedd y flwyddyn.