Pecyn Cymorth Ariannol Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:33, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn defnyddio pob arf sydd gennym i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl, ond ymddengys nad yw Llywodraeth y DU yn sylweddoli nac yn poeni am faint yr argyfwng y mae fy etholwyr a phobl ledled y wlad yn ei wynebu. A ydych yn cytuno â mi y dylent gyflwyno cyllideb frys ar unwaith, gan gynnwys treth ffawdelw ar elw cwmnïau olew a nwy a thoriad TAW i filiau ynni cartrefi, a chanolbwyntio i'r un graddau ar helpu pobl drwy’r argyfwng hwn ag y maent wedi'i wneud ar drefnu partïon anghyfreithlon yn Stryd Downing? Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn rhoi taliad o £150 i bobl, a deallaf, fel y dywedoch chi, fod mwy na 332,000 o aelwydydd eisoes wedi’i gael. Pryd y gall y gweddill ddisgwyl cael y taliad hwnnw?