Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 25 Mai 2022.
Hoffwn ailadrodd unwaith eto nad wyf yn credu bod hon yn broses araf. A gadewch inni gofio bod y cyfraniad o £150 gan Lywodraeth y DU yn dod ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; mae'n dod wrth inni ddechrau symud i mewn i'r gwanwyn a'r haf, pan na fydd biliau a'r pwysau ar aelwydydd mor ddifrifol ag y byddant yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Felly, credaf y bydd aelwydydd yn cofio hynny wrth iddynt ystyried eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond mae pethau y gall Llywodraeth y DU eu gwneud ar unwaith i gefnogi eich etholwyr a fy etholwyr innau gyda chostau byw. Er enghraifft, gallent ailgyflwyno'r codiad o £20 yr wythnos i gredyd cynhwysol—rhywbeth y gallai Llywodraeth y DU ei wneud ar unwaith i roi arian i'r aelwydydd sydd ei angen fwyaf. A gallent hefyd gael gwared ar yr holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth filiau ynni cartrefi a thalu amdanynt drwy drethiant cyffredinol—unwaith eto, rhywbeth y gallent ei wneud ar unwaith ac yn gyflym i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd.
Felly, mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ei rhan. Mae llywodraeth leol yn ein cynorthwyo i roi'r cynlluniau a gyflwynwyd gennym ar waith. Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Mater i Lywodraeth y DU yw dechrau gwneud y pethau na all neb ond hi eu gwneud—er enghraifft, cyflwyno’r cap ynni is ar gyfer aelwydydd incwm isel. Rydym wedi gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar hyn, gan ddarparu arweiniad a gweithio gyda hwy ar y cynllun. Ond gadewch inni gofio, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun ad-dalu—nad yw'n gynllun ad-dalu mewn gwirionedd, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno, mae'n debyg—heb unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, heb unrhyw rybudd ymlaen llaw. Felly, mae'r cyfryngau a'r wrthblaid yn gofyn i ni'n syth, 'Beth rydym yn mynd i'w wneud yn ei gylch? Sut rydym yn mynd i ddefnyddio’r cyllid canlyniadol hwn? A ydym yn mynd i gynnig yr un pecyn cymorth?' Felly, mae'n rhaid inni weithio'n gyflym iawn wedyn gyda llywodraeth leol, ac nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni pan fyddant yn datblygu'r cynigion hyn, er mwyn inni allu gwneud y gwaith cefndirol ymlaen llaw gyda'n hawdurdodau lleol fel bod ganddynt fwy o amser i baratoi ar gyfer rhoi'r cynlluniau ar waith.