Cyllid Codi'r Gwastad

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:51, 25 Mai 2022

Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae'r ateb yn adlewyrchiad o'r sefyllfa. Ond, wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn un siomedig, onid yw hi? Oherwydd, nôl yn 2019, roedd Cymru yn fuddiolwr net o bres o'r Undeb Ewropeaidd, yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn, a hynny'n gyrru cynlluniau economaidd ac yn denu hefyd, wrth gwrs, arian cyfatebol o ffynonellau preifat a chyhoeddus. Ond nawr, fel rŷch chi wedi awgrymu yn eich ateb, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hallgáu o'r broses yma. Rŷn ni'n symud o ddynesiad holistig, strategol i fodel cystadleuol sy'n gosod awdurdodau lleol yn erbyn ei gilydd yn lle dod â nhw at ei gilydd, ac, wrth gwrs, sydd yn dyrchafu rôl Aelodau Seneddol i ryw fath o ddyfarnwyr sydd bron iawn â rhyw fath o feto ar y cynlluniau yma. Mae'n mynd â ni i'r cyfeiriad anghywir. Yn hytrach na bod Cymru yn dod at ei gilydd i dynnu i’r un cyfeiriad gyda buddsoddiadau sy'n 'complement-io' ei gilydd, nawr rŷn ni'n gweld pawb yn cael eu hannog i fynd eu ffordd eu hunain, a hynny yn aml iawn ar draul eraill. Mae hefyd yn ymdrech fwriadol i dorri allan y Senedd yma o'r broses ac i danseilio'r mandad yna sydd gennym ni a'r trosolwg democrataidd yna sydd gennym ni fan hyn. Felly, yng ngoleuni hynny i gyd, ydych chi'n cytuno â galwadau Plaid Cymru y dylid datganoli pob cyfrifoldeb dros ffynonellau cyllido ôl-Brexit i Gymru?