Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 25 Mai 2022.
Ar y cwestiwn cyntaf gennych ynglŷn â bandiau oedran, gofynnwyd i'r is-grŵp dosbarthu edrych ar hynny yn dilyn cwestiynau a godwyd gan eich cyd-Aelod, Sam Rowlands, ar hyn. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ond rhaid imi ddweud bod y mwyafrif llethol o'r cyllid, a'r dangosyddion ar gyfer cyllid, yn cael eu diweddaru'n flynyddol. Felly, ar hyn o bryd mae'n 72 y cant, ond o ganlyniad i'r pandemig a chyflwyno credyd cynhwysol fesul cam, mae nifer o'r dangosyddion wedi'u rhewi ac maent yn cael eu harchwilio gan yr is-grŵp dosbarthu ar hyn o bryd. Ond pan gaiff y materion hynny eu datrys, bydd dros 80 y cant o'r fformiwla gyllido yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol, felly bydd gennym wybodaeth fwy diweddar. Wrth gwrs, mae gennym ddata'r cyfrifiad yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni, a bydd hwnnw, unwaith eto, yn bwysig iawn ar gyfer rhoi data mwy amserol i ni.