1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 25 Mai 2022.
8. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth benderfynu ar gyllidebau'r cyrff cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu? OQ58094
Mae ein dull gweithredu yn parhau i gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ganolog iddo. Ochr yn ochr â'n cyllideb ar gyfer 2022-23 sy'n darparu'r sylfeini ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, mae'r Ddeddf yn ganolog i'r gwelliannau i'r prosesau cyllideb a threth sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gwella'r gyllideb.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r datganiad llesiant i gyd-fynd â'r rhaglen lywodraethu, ac wedi dweud ynddo y byddwch
'yn defnyddio ein proses gyllidebol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu i gyflawni’r amcanion llesiant'
Roeddwn hefyd yn falch o weld y gair 'dyfodol' yn ymddangos 46 gwaith yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Ond er gwaethaf y camau sydd wedi'u cymryd, mae cyrff cyhoeddus yn dweud wrthyf dro ar ôl tro eu bod yn dal i deimlo bod penderfyniadau cyllidebol yn cael eu gwneud mewn seilos, ac er eu bod yn cael llythyrau cylch gwaith yn nodi sut y mae angen iddynt weithio i gefnogi amcanion llesiant, maent yn dal i'w chael hi'n anodd cael cyllid i helpu i gyflawni amcanion pwysig y Llywodraeth os ystyrir eu bod y tu allan i'w meysydd cylch gwaith traddodiadol—er enghraifft, sefydliadau celf sy'n cyflawni rhaglenni iechyd a lles, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol. Hefyd, mae rhai'n teimlo nad yw rhai cyrff cyhoeddus yn cyflawni fel y dylent o dan y Ddeddf ac eto maent yn parhau i dderbyn cyllid parhaus heb ddim mwy nag anogaeth i gyflawni mwy.
Byddai o ddiddordeb imi wybod a yw hyn yn rhywbeth sydd hefyd yn peri pryder i chi, Weinidog, ac a oes cynlluniau i symud tuag at gyllidebau sy'n fwy seiliedig ar effaith neu atal wrth i chi fonitro sut y mae'r amcanion llesiant sy'n gysylltiedig â'r gyllideb yn datblygu dros dymor y Senedd hon.
Mae hwnnw'n gwestiwn diddorol iawn ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd ein cynllun gwella'r gyllideb, a gyhoeddais gyntaf yn ôl yn 2018, ond mae wedi dod yn ddogfen dreigl, gan edrych ymlaen dros bum mlynedd ar y ffyrdd yr ydym yn gwella proses y gyllideb. Ac mae hynny'n ymwneud yn union â'r hyn yr ydych wedi'i ddisgrifio o ran meddwl ynglŷn â sut rydym yn manteisio i'r eithaf ar yr amryfal enillion a gawn o'n buddsoddiadau. Ac mae'r enghraifft a roesoch ynglŷn â phwysigrwydd celf i iechyd a lles yn un dda iawn. Byddaf yn ystyried hynny ymhellach wrth inni ddechrau ein cylch cyntaf o gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb gyda'n cyd-Aelodau yn y Cabinet, wrth inni ddechrau meddwl am gyllideb y flwyddyn ariannol nesaf—mae'r broses yn dechrau yn awr, felly dim ond ychydig o wythnosau sydd wedi bod ers y ddiwethaf. Ond bydd hwnnw'n sicr yn gwestiwn y byddaf yn ei archwilio gyda fy holl gyd-Aelodau wrth inni ddechrau meddwl am y camau nesaf.
Mae dadansoddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn awgrymu, er bod argyfwng hinsawdd wedi'i ddatgan, nad yw cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ymgorffori targedau datgarboneiddio wrth gyflawni eu gofynion caffael o hyd. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i unioni hyn ac i gydnabod y costau ychwanegol sy'n deillio o hyn? Diolch.
Wel, dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru fod yn edrych ar bopeth drwy lens Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac yn sicr yn archwilio beth arall y gallant fod yn ei wneud fel sefydliadau i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Felly, dylai hynny fod yn rhan o'r ffordd greiddiol y mae sefydliadau'n gweithredu yn awr ledled Cymru. Rwy'n credu bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei wneud yn eithaf clir. Felly, byddwn yn siomedig os nad yw cyrff cyhoeddus yn ystyried y Ddeddf ac yn edrych ar eu holl benderfyniadau drwy'r lens hwnnw. Ond os oes enghreifftiau penodol yr hoffech i mi edrych arnynt gyda fy nghyd-Aelodau, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.