Pont Llannerch

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:03, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthych ym mis Ionawr, sef ein bod, wrth gwrs, yn deall yr anawsterau a achoswyd i'ch etholwyr o ganlyniad i'r gwaith sydd angen ei wneud, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cynnal a sicrhau gwytnwch yr asedau hynny. Ond fel y dywedwyd wrthych ym mis Ionawr, ac mae'n parhau'n wir, nid ydym eto wedi cael cais am gyllid gan sir Ddinbych ynglŷn â'r bont.