Cyllid Cartrefi Gofal

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:12, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi diwygiadau i wella'r ddarpariaeth a chynyddu cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol cyfan. Yn 2022-23 yn unig, rydym yn darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180 miliwn o fewn y setliad llywodraeth leol, £45 miliwn i gefnogi diwygiadau, ynghyd â £50 miliwn o gyfalaf gofal cymdeithasol.