Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 25 Mai 2022.
Ie, da iawn chi. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y negeseuon hynny ar gefnffyrdd a thraffyrdd yn parhau; maent wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol iawn hefyd. Yn ystod misoedd yr haf, fe ofynnoch chi beth y byddaf yn ei wneud—byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith hwnnw; byddwn yn parhau i gyhoeddi trydariadau a rhyddhau datganiadau i'r wasg am bobl yn gadael anifeiliaid yn eu ceir. Mae gennym hefyd ein hymgyrch Aros, Atal, Amddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae honno wedi bod yn rhedeg ers 2019, ac yn dibynnu ar ba adeg o'r flwyddyn yw hi, rydym yn addasu'r ymgyrch honno i gyfleu negeseuon o'r fath.