Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch. Rwy'n cytuno; bûm yn ffodus iawn i ymweld â llawer o lochesau anifeiliaid a chanolfannau achub, ac mae'n drueni bod eu hangen, ond mae eu hangen, ac fel y dywedwch, mae lefel y gofal y maent yn ei roi yn rhagorol. Fe fyddwch yn gwybod am y rhaglen tair blynedd a oedd gennym i gefnogi ein hawdurdodau lleol mewn perthynas â gorfodi. Rhoesom arian sylweddol tuag at ymgyrch lle y gellid hyfforddi mwy o bobl i orfodi ein rheoliadau lles anifeiliaid, ac rydym bellach yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen honno.