Ffermydd y mae Cynghorau yn Berchen Arnynt

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:16, 25 Mai 2022

Dwi ddim yn licio'r ffordd rŷch chi wedi rhyw frwsio hwnna i'r naill ochr drwy ddweud mai dim ond 1 y cant a mater i'r awdurdodau lleol yw e. Dwi yn credu bod gennych chi rôl strategol bwysig fel Llywodraeth yn fan hyn, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pwysau ariannol yn mynd i barhau i daflu cysgod dros ddyfodol nifer o'r ffermydd cyngor yma, ac mae nifer y ffermydd wedi disgyn dros y blynyddoedd. Dwi yn teimlo ei bod hi'n amser i'r Llywodraeth ddod â'r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd er mwyn creu strategaeth bwrpasol i amddiffyn, ie, ond hefyd i gryfhau rôl y ffermydd cyngor yma. Mi allai colegau amaethyddol, er enghraifft, chwarae rhan bwysig yn hynny o beth drwy dreialu syniadau newydd, defnyddio'r cyfle i fyfyrwyr arloesi ac yn y blaen. Rŷn ni'n cofio gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chlybiau ffermwyr ifanc Cymru mewn perthynas â Llyndy Isaf, wrth gwrs, a'r fwrsariaeth yn fanna. Mae hwnna'n un model posib, ac mae yna bartneriaid eraill dwi'n teimlo ddylai fod yn rhan o'r drafodaeth. Felly, gaf i ofyn: a wnewch chi, fel Gweinidog ac fel Llywodraeth gynnull uwchgynhadledd i edrych yn benodol ar amddiffyn ein ffermydd cyngor a'u rhoi nhw ar waith yn fwy bwriadol ac yn fwy creadigol er mwyn helpu creu dyfodol mwy cynaliadwy i'r sector?