Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dŷn ni wedi clywed heddiw yn barod am ddiogelwch bwyd, ac yn ystod yr argyfwng bwyd presennol sydd yn gwaethygu yn ddyddiol, mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau am lansio platfform newydd ar y cyd er mwyn mynd i'r afael â diogelwch cyflenwadau bwyd a nwyddau amaethyddol, gan wella mynediad byd eang i gnydau craidd a gwrteithiau o ranbarth ardal Rwsia ac Wcráin. Wrth gwrs, mae’r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan ganolog er mwyn sicrhau polisïau diogelwch bwyd, ond does gan Lywodraeth Prydain, ac o ganlyniad i hynny, does gennym ni yma yng Nghymru, ddim llais yn hyn oherwydd ein bod ni bellach allan o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae ffermwyr ledled Cymru, sydd eisoes yn wynebu costau uwch am danwydd a phorthiant anifeiliaid, wedi rhybuddio y byddan nhw'n gwrthbwyso'r prisiau uwch yma drwy brynu llai o wrtaith, a allai arwain at gynhyrchu llai o gnydau ar adeg pan fod cyflenwadau grawnfwydydd eisoes o dan fygythiad oherwydd y rhyfel.
Mae arbenigwyr o'r sector wedi dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fod angen iddynt ystyried ar frys ffyrdd o gynyddu ac arallgyfeirio cynhyrchu gwrtaith domestig. Pa drafodaethau, felly, ydych chi yn Llywodraeth Cymru yn eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o ran diogelwch bwyd ac effaith prinder gwrtaith ar sector amaethyddol Cymru?