Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 25 Mai 2022.
Tynnaf sylw'r Aelodau at fy natganiad yng nghofnod buddiannau'r Aelodau. Weinidog, mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi dod â'r cyfnod talu ymlaen i fis Gorffennaf. Roeddech yn dweud mewn ymateb cynharach i gwestiwn fod angen pum elfen mewn gwirionedd yn hytrach na thair, ac un o'r rheini oedd cyllid. Mae'n hanfodol fod llif arian yn mynd drwy fusnesau ffermio, yn enwedig gyda chyfnod prysur yr hydref o'n blaenau yn awr, er mwyn gallu prynu hadau a stoc bridio. A fyddech yn ystyried cyflwyno'r cyfnod yn gynt, ym mis Gorffennaf hyd yn oed? Clywais yr hyn a ddywedoch chi am fis Hydref, ond gan ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gallwch gyflwyno'r cyfnod hyd yn oed yn gynt, ac mae cael y cyllid hwnnw i gyfrifon banc ffermydd yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud fel Gweinidog. Felly, a gaf fi eich annog i ystyried hynny, Weinidog?