Grŵp Ymgynghorol ar Bysgodfeydd Morol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:51, 25 Mai 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Fel rydych chi'n gwybod, roedd yna grŵp WMFAG—Wales marine fisheries advisory group—yn arfer bodoli, yn fforwm ar gyfer rhanddeiliad yn y sector bysgota er mwyn rhannu gwybodaeth, profiad ac arbenigedd. Yn anffodus, ddaru WMFAG ddirwyn i ben tua tair blynedd yn ôl, a does yna ddim fforwm wedi bod i bysgotwyr ers hynny. Er gwaethaf hynny, mae yna fforwm wedi bod ar gyfer y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill sydd yn ymddiddori mewn materion morol. Rydyn ni'n clywed yn aml iawn, a chithau fel Gweinidog a Gweinidogion eraill yn sôn droeon, am yr angen i gyd-lunio a chyd-greu polisïau. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael efo'r sector bysgota er mwyn cyd-lunio a chyd-greu y strwythurau ymgysylltu wrth inni symud ymlaen i ailsefydlu y grŵp yma?