2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 25 Mai 2022.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwrtaith amaethyddol yng Nghymru? OQ58083
Mae Llywodraeth Cymru yn monitro argaeledd a chost yr holl fewnbynnau amaethyddol yn fanwl drwy grŵp monitro marchnad amaethyddol y DU a thasglu gwrtaith y DU. Mae'r dadansoddiad presennol yn dangos nad oes unrhyw broblemau gyda'r cyflenwad gwrtaith yng Nghymru, ond gall anwadalrwydd prisiau nwy arwain at amrywiadau pellach yn y prisiau.
Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel ffermwr, fel y nodwyd yn fy nghofnod buddiannau, er nad wyf yn defnyddio gwrtaith mewn gwirionedd.
Fel y clywsom, Lywydd, mae'r sector amaethyddol—ac rydym wedi'i glywed droeon heddiw—yn wynebu cyfnod ansicr. Er enghraifft, ceir nifer o bryderon ynghylch argaeledd a chost gwrtaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sy'n ystyriaeth hanfodol i gynifer o fusnesau ac sy'n allweddol i'n diogeledd bwyd. Disgwylir y bydd prisiau gwrtaith tymor newydd yn dechrau dod yn fwy clir wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, gyda chynhyrchwyr angen prynu gwrtaith i baratoi ar gyfer tymor tyfu y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae undebau'r ffermwyr a llawer o gynhyrchwyr wedi mynegi pryderon y gallai'r ansicrwydd presennol yn y farchnad annog ffermwyr i ymatal rhag prynu gwrtaith tan y flwyddyn nesaf. Byddai hyn yn creu heriau pellach, gan fod perygl na fydd digon o gapasiti cyflenwi i ateb pwysau'r galw yn y dyfodol. Weinidog, roeddwn yn falch o glywed eich bod yn siarad â Llywodraeth y DU, ond pa sgyrsiau yr ydych yn eu cael gyda chynhyrchwyr a'r diwydiant gwrtaith i helpu'r sector i barhau i allu fforddio cynnyrch gwrtaith ar adeg anodd? Efallai fod elfen arall yn berthnasol o ran y modd y caiff cymorth ychwanegol ei roi. Sut y mae'r Llywodraeth yn monitro cyflenwad a galw i sicrhau y gellir mynd i'r afael ag unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol mewn modd amserol?
Diolch. Rydym yn sicr yn cydnabod ansicrwydd y cyfnod hwn am amryw o resymau i'r sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd, a soniais fod fy swyddogion yn mynychu grŵp monitro'r farchnad amaethyddol, a dyna lle rydym yn monitro'n agos iawn yr hyn sy'n digwydd yn ein sector ni yma yng Nghymru wrth gwrs. Cyfarfûm â ffermwr—ni allaf gofio ai yn y Siambr neu mewn pwyllgor lle y trafodais hyn—a oedd wedi prynu cyflenwad o wrtaith ym mis Chwefror, a phan welais ef oddeutu tair wythnos yn ddiweddarach, roedd y gwrtaith wedi codi dair gwaith yn ei bris, a dywedodd wrthyf, 'Nid wyf yn gwybod a ddylwn ei wasgaru neu ei werthu'. Rwy'n credu ei fod yn tynnu coes, ond roeddwn yn deall yn llwyr y pryderon a oedd ganddo am y pris.
Credaf fod hwn yn fater hirdymor wrth gwrs. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i siarad â'n rhanddeiliaid. Soniais fy mod yn siarad â rhanddeiliaid yn rheolaidd. Un rhanddeiliad arall y siaradais ag ef oedd y banciau, oherwydd roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn asesu eu safbwyntiau, ac mae effaith y rhyfel ar fusnesau amaethyddol yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddynt fynd i'r afael ag ef wrth gwrs. Felly, byddwn yn parhau i gefnogi'r diwydiant. Rydym yn meddwl—. Wel, nid ydym yn meddwl, rydym yn mynd i sefydlu hyb er mwyn inni allu cyfeirio pobl yn llawer cyflymach nag a wnawn yn awr at gyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o ymateb i'r costau mewnbwn uchel iawn a welwn.