Diwydiant Amaethyddol Sir Drefaldwyn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:00, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, yr hyn sydd ei angen ar ffermwyr yn fy etholaeth i, ac ar draws Cymru gyfan mewn gwirionedd, yw cyfeiriad clir ym mholisi’r Llywodraeth. Roedd y Bil amaethyddol i fod i gael ei gyflwyno yn y gwanwyn eleni, ond ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Weinidog, a wnewch chi egluro pam nad yw’r Bil wedi cael ei gyflwyno eto, pryd y bwriadwch gyflwyno’r Bil bellach, a hefyd unrhyw faterion ehangach mewn perthynas â chefnogi’r diwydiant amaethyddol a chyfeiriad y Llywodraeth?