Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu rhaglen drosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol ac arloesedd, ac mae'n cynorthwyo busnesau fferm i leihau costau a sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd mwyaf posibl. Ar 1 Ebrill, cyhoeddais becyn cymorth gwerth dros £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi gwytnwch yn yr economi wledig.