Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 25 Mai 2022.
Wel, mae’n peri dryswch i mi pam y byddai unrhyw un yn synnu at y cyhoeddiad sydd wedi’i wneud, o ystyried, fel y dywedoch chi, fod ymgysylltu enfawr wedi bod: cafwyd 1,500 o ymatebion gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, ac roeddem yn amlwg yn ddiolchgar amdanynt; 1,000 o ymatebion i’n hymgynghoriad gwreiddiol, a 500 o ymatebion i’n hymgynghoriad technegol. Felly, nid wyf yn deall sut y gall unrhyw un synnu a methu rhagweld penderfyniad ar hyn. Fe wnaethom ymdrechu'n galed iawn i fod mor gynhwysol ag y gallem wrth ddatblygu'r materion penodol hyn.
Mae’n wir mai bwriad y newidiadau hyn yw sicrhau bod busnesau hunanddarpar yn gwneud cyfraniad teg i’r economi leol. Nawr, pwy allai wrthwynebu hynny ar wahân, efallai, i'r Ceidwadwyr Cymreig? Lle y caiff eiddo ei osod ar sail fasnachol am 182 diwrnod neu fwy, credaf ei bod yn deg cydnabod y bydd y busnes hwnnw'n cyfrannu at yr economi leol. Bydd yn cynhyrchu incwm a bydd yn creu swyddi, ac rydym yn gwybod y bydd digon o fusnesau yn gallu cyrraedd y trothwy hwnnw. I'r rhai na allant, mae opsiynau ar gael iddynt, yn amlwg—rwy’n synnu bod yn rhaid imi eu nodi. Gallai newid y model busnes fod yn un opsiwn, neu gallai gosod yr eiddo ar sail hirdymor, fel eiddo rhent ar gyfer unigolyn neu deulu lleol, fod yn opsiwn arall iddynt ei ystyried.
Felly, mae yna ddewisiadau, a hefyd mae yna amser. Gwneuthum y cyhoeddiad gwreiddiol hwn ar 2 Mawrth. Cawsom gyfle i’w drafod mewn dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth yn weddol ddiweddar. A hefyd ni fydd y newidiadau’n dod i rym tan 1 Ebrill 2023. Felly, mae amser wedi bod i ystyried sut y bydd busnesau’n addasu ac yn ymateb i’r newidiadau. Ond mae hyn yn rhan o’r gwaith a wnawn mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’n dull triphlyg o ymdrin â phroblem wirioneddol ail gartrefi mewn cymunedau ledled Cymru.