Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r cynnig hwn i’r Siambr heddiw. Llywodraeth Cymru oedd un o’r rhai cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac roedd yn arloesol. Cofiaf glywed y cyhoeddiad a meddwl am bob un yn ein cymunedau sydd wedi addasu i ailgylchu eu gwastraff, beicio i’r gwaith, cerdded i’r gwaith i liniaru llygredd aer, plant ysgol sy’n defnyddio poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio i leihau’r defnydd o blastig. Nid yw'r gweithredoedd hyn yn ofer pan fydd gennym Lywodraeth sy'n cydnabod y wyddoniaeth. Yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy’n gwybod bod yn rhaid inni weithredu ar unwaith. Cyn y pandemig, roeddwn hefyd yn falch o sefyll ochr yn ochr â phobl ifanc ledled Cymru, ond yn enwedig y rheini o Ben-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, a ddaeth i lawr i orymdeithio gyda streiciau hinsawdd y bobl ifanc. Roeddent yn arfer dod i eistedd ar risiau’r Senedd bob mis a rhoi areithiau anhygoel.
Mae lefelau’r môr yn codi, mae newidiadau i’r tywydd yn effeithio ar ein ffermwyr, mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein bioamrywiaeth a’n bywyd gwyllt. Felly, nid mater o nodi’r bygythiad yma yng Nghymru yn unig yw datgan argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid inni osod esiampl yn awr a mynd ati i wneud pethau’n wahanol. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu rhwng gwledydd i greu modd o fyw’n gynaliadwy, cydweithredu ar flaenoriaethau sy’n sicrhau nad yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn dioddef, cydweithredu rhwng Llywodraethau a’u pobl lle mae trigolion yn chwarae eu rhan gyda'n Llywodraeth hefyd yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd. Mae’r cynnig heddiw yn cyflwyno’r union egwyddorion hyn. Unwaith eto, nid yw'n ymwneud â gorfodi hyn ar y sector cyhoeddus ychwaith. Mae’r cynnig yn nodi'n glir iawn fod hyn yn ymwneud â chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus, er mwyn cyrraedd targedau sydd eisoes ar waith i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cyrraedd sero net erbyn 2030. Mae angen i bobl gael sicrwydd gan eu Llywodraeth a'u sector cyhoeddus eu bod yn gwneud pethau sydd er eu lles hwy ac er lles y blaned.
Mae cynllun pensiwn y sector cyhoeddus yn fuddsoddiad i sicrhau bod eu dyfodol yn un o sicrwydd ariannol i bobl pan fyddant wedi rhoi'r gorau i'w gwaith. Mae cynllun sy'n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, gan gyfrannu at ddinistr y blaned, yn mynd yn groes i'r union sicrwydd y mae'r pensiwn yn anelu i'w greu. O ddiwydiannau i fusnesau lleol i drigolion a phlant ysgol, mae pob un ohonom yn edrych ar ffyrdd newydd o fyw'n gynaliadwy sy'n seiliedig ar ddiogelu ein planed. Byddai symud pensiynau oddi wrth y cynllun yn enghraifft arall o’r ffordd y mae Cymru’n arwain ar ddiogelu’r amgylchedd, a dyma’r peth iawn i’w wneud hefyd er budd pawb. Byddai hefyd yn golygu mai ni fyddai'r genedl gyntaf yn y byd i wneud hynny. Byddai hynny'n gwbl anhygoel. Onid yw pob un ohonom yn dymuno bod yn rhan o genedl a Llywodraeth a all wneud hynny?
Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Ni allwn ganolbwyntio mwyach ar gynyddu twf economaidd a chynnyrch domestig gros i’r eithaf ar draul gwneud penderfyniadau ar sail buddion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n rhaid inni ailfuddsoddi egni o arferion niweidiol megis ariannu olew a nwy i mewn i bolisïau arloesol, cydweithredol a thryloyw sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen gwneud elw.