Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 25 Mai 2022.
Ddirprwy Lywydd, teitl y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod heddiw yw 'Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru'. Mae'r ddeiseb hon wedi derbyn 10,393 o lofnodion. Mae'n dweud bod Syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, nad yw'n gyflwr prin ac mae gan Gymru un arbenigwr nad yw'n gweld plant. Mae'r ddeiseb yn galw am
'[l]wybr priodol, clir a chlinigol, a mynediad at ddarpariaeth arbenigol a gofal meddygol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru.'
Wrth imi sefyll yma heddiw, Ddirprwy Lywydd, rydym 10 diwrnod i mewn i Fis Ymwybyddiaeth Syndrom Tourette, ymgais i godi ymwybyddiaeth o syndrom Tourette a'r anawsterau y gall eu hachosi i un o bob 100 o blant ac oedolion. Hoffwn ddiolch yn awr i'r Pwyllgor Busnes am amserlennu'r ddadl hon mor brydlon, er mwyn inni allu cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth.
Ddirprwy Lywydd, mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at yr anawsterau y gall dioddefwyr eu hwynebu yng Nghymru. Mae lefelau isel o ymwybyddiaeth yn golygu y gall fod yn anodd cael diagnosis, mae diffyg gofal arbenigol yn golygu y gall fod yn anodd cael mynediad cyflym at gymorth a all wneud bywyd ychydig yn haws, a gall fod anghysonderau enfawr yn y triniaethau, yn dibynnu ar lle rydych yn byw yng Nghymru. Gallwn wneud yn well, ac mae'n rhaid inni wneud yn well.
Nawr, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan ymgyrchwyr i godi ymwybyddiaeth, gan gynnwys enwogion fel Billy Eilish a'n Hefin David ein hunain, sydd wedi rhannu profiad ei deulu o awtistiaeth gyda'r Siambr yn ddiweddar, a'r cysylltiad sydd yno hefyd. Ond yn union fel Billy Eilish a Hefin David, yr hyn y mae'r deisebydd, Helen Reeves-Graham, eisiau ei weld mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol, ac nid codi ymwybyddiaeth yn unig, Ddirprwy Lywydd—newid yn eu cymunedau a newid gwirioneddol yn eu bywydau a bywydau'r bobl y maent yn eu caru. Os caf ddefnyddio geiriau Helen ei hun:
'Yn ddelfrydol, byddem wrth ein bodd yn gweld clinig arbenigol ar gyfer Syndrom Tourette yng Nghymru a fyddai'n cynnig pecyn gofal cyflawn o therapi, mynediad at feddyginiaethau, cymorth gyda chysgu, anawsterau ymddygiad, anawsterau symudedd, rheoli poen a help gyda chydafiacheddau eraill. Mae angen i gymorth a chefnogaeth fod ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae angen i'r bobl a fyddai'n darparu'r gwasanaethau hyn gael eu hyfforddi'n llawn. Mae gwir angen mynediad at arbenigwr yng Nghymru.'
A gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo i wella asesiadau a gwasanaethau cymorth ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys syndrom Tourette, a'i bod wedi cyfarfod â'r deisebydd ac eraill i glywed yn uniongyrchol gan gleifion a'u teuluoedd am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu.
Mae gwrando ar y rhai sydd â phrofiad byw yn hanfodol os ydym am ddeall yr anghenion a'r math o gymorth sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Mae etholwr wedi cysylltu â fy swyddfa yn ddiweddar ac wedi rhannu gofid ei theulu oherwydd diffyg gwasanaethau cymorth. Disgrifiodd ei mab wyth oed a sut y mae syndrom Tourette yn effeithio ar ei fywyd. Mae'n dweud nad yw ei mab yn rhegi, ond mae ei gyflwr yn llawer mwy heriol ac yn ei geiriau hi, Lywydd:
'Mae'n dioddef gyda gorbryder eithafol ac mae'n cael meddyliau ymwthiol. Mae wedi siarad am sut y mae eisiau marw. Mae'n dweud wrthyf mai ei diciau sy'n dweud hyn yn ei ben ac mae'n teimlo ei fod eisiau estyn cyllell i drywanu ei hun.'
Ar y pryd, roedd ei mab yn saith oed, a chafodd ei atgyfeirio gan yr ysgol ar unwaith at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ond dywedwyd wrthynt y byddai ar restr aros hir iawn. Lywydd, mae ei mab yn dioddef o diciau ffrynig yn ei ben, ei wyneb a'i ên. Mae ei lygaid yn llosgi, mae'n curo ei ben, mae ganddo sgiliau echddygol gwael, prin y mae'n gallu ysgrifennu, mae ei reolaeth ar gael ei weithio yn wael iawn ac mae'n dioddef llawer iawn o boen yn ei gorff o ganlyniad i symudiadau anwirfoddol sydyn, ymhlith amryw o heriau eraill. Ac er gwaethaf ei holl ddioddefaint, nid yw'r teulu wedi gallu cael gafael ar wasanaethau arbenigol, ar wahân i gefnogaeth gyson cydlynydd anghenion addysgol arbennig yr ysgol. Mae'n disgrifio darlun llwm iawn o'r modd y mae ein system iechyd yn gwneud cam â'i mab ac mae'n ofni ynghylch ei ddyfodol. Mae'n galw am addysg well i bob gweithiwr proffesiynol ynglŷn â'r cyflwr andwyol hwn. Mae hefyd yn galw am gymorth addas, cefnogaeth a llwybr meddygol clir, o'r meddyg teulu i fyny. Dyma mae ei mab ac eraill sy'n dioddef o syndrom Tourette yn ei haeddu—yr hawl i gael eu deall, eu parchu ac i gael y gofal a'r gefnogaeth y maent eu hangen mor daer.
Lywydd, bydd canlyniadau'r adolygiad gallu a galw o wasanaethau niwroddatblygiadol i rai o bob oed, a oedd i fod i adrodd ar ddiwedd mis Mawrth, yn llywio'r dull o weithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu yn y blynyddoedd a'r misoedd nesaf. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn gallu rhannu rhai o'i syniadau wrth ymateb i'r ddadl hon.
Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed gan Aelodau eraill y prynhawn yma, ac wrth gwrs, at glywed gan y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.