6. Dadl ar ddeiseb P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 4:12, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i Helen am gyflwyno'r ddeiseb hon. Mae'r hyn y mae'n galw amdano'n hollol gywir—caiff syndrom Tourette ei anwybyddu gan nifer ac mae'r rhan fwyaf yn ei ystyried yn gyflwr sy'n golygu eich bod yn rhegi'n afreolus, ac rwyf fi fel llawer o bobl eraill wedi bod yn euog o feddwl hynny yn y gorffennol, ond mae llawer mwy iddo. Mae'n gyflwr niwrolegol sy'n gallu bod yn boenus iawn. Dyna pam y mae'n bwysig bod diagnosis yn cael ei wneud a bod gofal a chymorth meddygol yn dilyn hynny. Ond yng Nghymru nid oes llwybr clinigol clir ar hyn o bryd i asesu darpariaeth a gofal arbenigol, yn enwedig i blant. Dim ond un meddyg ymgynghorol a geir yng Nghymru sy'n arbenigo ar syndrom Tourette, a hynny mewn oedolion yn unig. Mae hon yn broblem fawr. Mae'r ticiau y mae pobl yn eu datblygu yn aml yn fwyaf difrifol yn ystod plentyndod a'r glasoed, ac o ganlyniad, gallant effeithio ar yr hyn rydym i gyd yn ei gydnabod fel cyfnod tyngedfennol mewn datblygiad dynol a'r broses o gymdeithasoli.

Y gwir amdani yw y gall aros nes eich bod yn oedolyn i gael diagnosis achosi llwyth o broblemau. Mae astudiaethau wedi dangos y gall cael diagnosis o syndrom Tourette helpu unigolion i ddeall eu hymddygiad eu hunain a'u helpu i esbonio eu hymddygiad i eraill. Dywed rhai eu bod wedi teimlo'n fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl cyn iddynt gael eu diagnosis, ac mae tystiolaeth yn dangos bod unigolion â syndrom Tourette yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Ochr yn ochr â phroblemau iechyd meddwl, nododd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i astudiaeth yr arolwg o effaith syndrom Tourette, a oedd yn cynnwys plant ac oedolion, eu bod wedi cael o leiaf un tic a achosodd boen a niwed corfforol. Dyna pam y mae mynediad at therapi galwedigaethol sy'n gallu mynd i'r afael â rheoli poen, yn ogystal ag anawsterau lleferydd a phroblemau synhwyraidd, yn hanfodol. Yn ogystal ag agor mynediad at wasanaethau a chymorth, mae diagnosis yn caniatáu i bobl gyfarfod ag unigolion eraill sydd â syndrom Tourette, gan eu helpu felly i ddatblygu ymdeimlad o gymuned a pherthyn na fyddent wedi'i deimlo fel arall o bosibl.

Os caf fynd yn ôl at bwynt cynharach a wneuthum, mae llawer mwy i syndrom Tourette nag y byddem yn ei feddwl i ddechrau. Mae llawer i'w ddweud am addysg, yn ogystal â'r modd y siaradwn amdano a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag ef. Credaf fod y ddeiseb hon eisoes wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud hynny, a dylai Helen ymfalchïo yn hynny. Felly, unwaith eto, diolch i Helen am dynnu sylw'r pwyllgor at y mater, ac edrychaf ymlaen at weld sut y mae'r Llywodraeth yn ymateb i'r ddeiseb a'r hyn y mae'n galw amdano. Diolch.