Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 25 Mai 2022.
Hoffwn ganolbwyntio ar effaith Brexit ar gyllid ymchwil ac arloesi, sy’n dangos yn glir yr honiad yn ein cynnig nad yw ffrydiau cyllido ôl-Brexit yn gweithio i Gymru. Felly, pam fod hyn yn broblem? Mae ymchwil ac arloesi'n hollbwysig i gynhyrchiant a ffyniant ein cenedl. Mae’n ein helpu i ddeall yn well pwy ydym ni a'r ffordd orau o gynllunio ein dyfodol, gan alluogi’r ymchwil a wneir yn ein prifysgolion i gael effaith gadarnhaol a chadarn ar ein bywydau yma yng Nghymru a thu hwnt. Llwyddodd yr enillydd gwobr Nobel, Andre Geim, i grynhoi gwerth ymchwil sylfaenol. Dywedodd,
'Nid oes y fath beth â gwybodaeth sylfaenol ddiwerth. Byddai'r chwyldro silicon wedi bod yn amhosibl heb ffiseg gwantwm. Mae mathemateg haniaethol yn gwneud diogelwch y rhyngrwyd yn bosibl ac yn sicrhau nad yw cyfrifiaduron yn chwalu bob eiliad. Efallai fod damcaniaeth perthnasedd Einstein yn amherthnasol yn eich barn chi, ond ni fyddai eich system llywio â lloeren yn gweithio hebddi. Mae'r gadwyn rhwng darganfyddiadau sylfaenol a nwyddau defnyddwyr yn hir, yn aneglur ac yn araf—ond dinistriwch y pethau sylfaenol, a bydd y gadwyn gyfan yn dymchwel'.
Ac nid oes angen inni edrych ymhellach na blynyddoedd y pandemig i ddeall ein hangen am y ddau ddiwylliant, y dyniaethau a gwyddoniaeth. Nid oes angen inni edrych ymhellach na'r argyfwng hinsawdd i ddeall pam fod ein bywydau yn llythrennol yn nwylo ein hymchwilwyr.
Nododd adroddiad Llywodraeth Cymru yn 2019 ar ddiogelu ymchwil ac arloesi ar ôl gadael yr UE:
'Bydd Brexit yn golygu gostyngiad sylweddol yn y buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu yn y DU. Os nad eir i’r afael â hyn, bydd colli cymaint â hyn o arian strwythurol yn fygythiad anghymesur i ecosystem ymchwil ac arloesi gynhyrchiol Cymru, a hynny ar ôl llwyddo dros y ddau ddegawd diwethaf i gyflawni cystal, ac yn well yn wir, na gwledydd eraill y DU a gwledydd a rhanbarthau eraill o'r un maint yn Ewrop ac yn rhyngwladol o ran effaith cyhoeddiadau ymchwil'.
Mae'n amlwg fod y rhagfynegiad hwn yn gwbl gywir. Yr hyn sy’n druenus yw nad yw Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigonol ers hynny er mwyn sicrhau yr eir i’r afael ag effaith colli cyllid yr UE, gan fod y risgiau’n glir. Mae cronfeydd strwythurol yr UE wedi chwarae rhan hollbwysig yng nghapasiti ymchwil Cymru. Sicrhaodd Cymru oddeutu 25 y cant o gyfanswm dyraniad y DU ar gyfer y cyfnod 2014-20—mwy na phum gwaith cyfartaledd y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, dyrannwyd €388 miliwn i Gymru o gyfanswm y DU o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ar gyfer ymchwil ac arloesi—yr uchaf o unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig. Ac ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu buddsoddi dros £500 miliwn o gyllid sy'n gysylltiedig â’r UE mewn ymchwil ac arloesi. Felly, ni ellir gorbwysleisio effaith colli'r cyllid hwn, heb arian digonol yn ei le. A'r rheswm am hynny yw nad yw Cymru, ar hyn o bryd, yn cael cyfran o gyllid ymchwil ac arloesi'r DU sy'n cyfateb i'r gyfran y dylem ei disgwyl yn unol â fformiwla Barnett. Yn 2020, er enghraifft, er bod 5 y cant o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru, 2 y cant yn unig o gyllid ymchwil a datblygu’r DU a gawsom. Mae lefel buddsoddiad Cymru mewn ymchwil a datblygu yn sylweddol is na chyfartaleddau'r DU a'r UE. A bydd y darlun hwn yn gwaethygu wrth i brifysgolion Cymru fod o dan anfantais anghymesur, o ystyried y lefel uchel o ddibyniaeth ar gyllid yr UE yn hanesyddol.
Yn 2018, amlygodd adolygiad yr Athro Reid o ymchwil ac arloesi yng Nghymru a ariennir gan y Llywodraeth, er bod yr ecosystem ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn gryf, nad oedd yn ddigon mawr i wireddu potensial llawn Cymru. A gŵyr pob un ohonom, er mwyn ehangu, fod angen cyllid arnoch yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, sut y mae dyfodol y sector hollbwysig hwn yn edrych, pan fo 79 y cant o gyfanswm cyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn dod o gronfeydd strwythurol yr UE, ac mae’r gronfa ffyniant gyffredin gannoedd o filiynau o bunnoedd yn brin o’r addewid gwag na fyddem ‘geiniog ar ein colled'? Wel, nid yw'n edrych yn dda, oherwydd o ystyried pa mor fach yw sylfaen ymchwil Cymru, nid yw'n realistig y byddai rhagor o lwyddiant yn amgylchedd cyllid ymchwil ac arloesi cystadleuol y DU yn unig yn ddigon i dyfu neu hyd yn oed i gynnal ymchwil a datblygu Cymru ar y lefelau blaenorol. O ystyried hyn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ar fyrder â’r bwlch enfawr hwn yn y cyllid, a fydd yn peryglu ein capasiti ymchwil ac arloesi.
Mae’r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd wedi tynnu sylw at ganlyniadau methiant Llywodraeth Cymru i roi argymhellion llawn adolygiad Reid ar waith, argymhellion a luniwyd i ddiogelu a chryfhau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, yn wyneb y niwed a achoswyd gan Brexit. Mae'r Sefydliad Ffiseg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Prifysgol Caerdydd, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Prifysgolion Cymru wedi gwneud hynny hefyd. Wrth egluro safbwynt Llywodraeth Cymru, mae Gweinidog yr economi wedi tynnu sylw at rôl Deddf y farchnad fewnol a chronfa ffyniant gyffredin y DU yn lleihau’r cyllid disgwyliedig ac ymrwymiadau blaenorol cysylltiedig.
Er fy mod yn gofyn, felly, i’r holl Aelodau gefnogi ein galwad ar Lywodraeth y DU i ddatganoli cyfrifoldeb dros y ffrydiau cyllido ôl-Brexit newydd, hoffwn hefyd dynnu sylw Llywodraeth Cymru at y ffaith bod y sefyllfa bresennol yn sicr yn fwy o reswm iddynt weithredu ar unwaith, i ategu a chynnal prif sbardun ffyniant ein cenedl. Diolch.