7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid ar ôl Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 25 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:55, 25 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n un byr iawn. Ac wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn dweud pa mor anodd yw hi iddynt ymdrin â baich gweinyddol hyn. Mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd Darren Millar, oes, wrth gwrs, mae gennym ni, fel Aelodau o’r Senedd, gyfle i graffu ar benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru. Dyna yw ein rôl fel seneddwyr, ac a yw’r Aelod dros Ogwr yn cytuno mai’r perygl wrth roi dylanwad uniongyrchol i Aelodau yw eich bod yn troi’r sefyllfa yn wleidyddiaeth 'casgen borc'?