Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 25 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Pam ein bod wedi galw am y ddadl hon heddiw? Gallwn ddechrau sôn yn syth bin am fanylion gwahanol gronfeydd ac atgyfodi hen ddadleuon ynghylch Brexit, ond hoffwn ddechrau mewn termau mwy syml: rydym yn wynebu trychineb costau byw. Mae’r rhan fwyaf eisoes wedi dechrau teimlo’i effeithiau ar ôl y cynnydd mewn prisiau ynni ar 1 Ebrill, ac adroddodd y penawdau ddoe y bydd bil ynni cartref cyffredin yn codi £800 y flwyddyn eto ym mis Hydref. Tra bo hyn oll yn mynd rhagddo, nid yn unig nad oes gan Gymru’r ysgogiadau ariannol a lles sydd gan San Steffan i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, ond rydym wedi ein hamddifadu o gyllid hefyd wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, cyllid a allai wneud byd o wahaniaeth yn awr. Yn hytrach na’r prosiectau digyswllt sy’n gwneud mân newidiadau ar yr ymylon, mae Plaid Cymru'n galw am ddefnyddio’r cyllid ffyniant bro i gyflwyno rhaglenni gwirioneddol drawsnewidiol megis ôl-osod stoc dai Cymru, un o’r stociau tai hynaf yn Ewrop, i arbed dros £600 i aelwydydd ar filiau ynni. Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am ddatganoli’r gronfa ffyniant gyffredin, ac am fabwysiadu fformiwla ariannu sy'n seiliedig ar anghenion, gan roi’r cyfle inni unioni'r dull mympwyol o’r brig i lawr a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU.
Mae angen datganoli’r gronfa ffyniant gyffredin i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cronfeydd yn cael eu cyfeirio’n briodol i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn uniongyrchol. Mae ffigurau chwyddiant a chyfraddau twf economaidd yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol o chwyddwasgiad y DU; record y Ceidwadwyr yw 12 mlynedd o fethiant i greu economi sy’n sicrhau llesiant i bobl ledled y Deyrnas Unedig. O’r argyfwng bancio hyd heddiw, mae Llywodraeth San Steffan wedi bachu ar bob cyfle i orfodi mesurau cyni ac i sicrhau Brexit caled o’i gwaith ei hun. Mae'r rheini wedi cyfuno i waethygu argyfwng costau byw'r DU. Oes, mae yna achosion eraill sydd wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae'r rhain yn ddewisiadau ideolegol a fydd yn cael eu cofio fel creadigaethau'r Torïaid.
Nid yw'r gronfa ffyniant bro'n gwneud unrhyw beth i gywiro camgymeriadau'r gorffennol na darparu ar gyfer y dyfodol. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae trefniant ariannu ôl-Brexit y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru yn brin o £772 miliwn mewn cronfeydd strwythurol yn unig ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2025, ac yng Nghymru, rydym yn wynebu colli mwy nag £1 biliwn mewn cyllid heb gael unrhyw gyllid yn ei le dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny nid yn unig yn ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru, fel y mae Gweinidog yr economi wedi’i ddweud eisoes, ond mae hefyd yn addewid etholiadol a dorrwyd. Yn 2019, addawodd y Blaid Geidwadol raglen decach ac wedi’i theilwra’n well i’n heconomi yn lle cyllid rhanbarthol yr UE. Fodd bynnag, hyd yma, nid yw swm y cyllid a ddyrannwyd i’r perwyl hwn wedi cadw at addewid rhethreg Llywodraeth y DU ynghylch codi'r gwastad. Nid dyna a addawyd ar dudalen 15 o faniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig yn 2019, a ddywedodd na fydd
'unrhyw ran o’r DU ar ei cholled pan na fydd cyllid yr UE ar gael mwyach'.
Ac nid dyna chwaith oedd yr hyn a addawyd ar dudalen 29, a ddywedodd
'na fydd Cymru yn colli unrhyw bwerau na chyllid ar ôl i ni ymadael â’r UE'.
A bod yn deg, mae'n rhaid bod meinciau’r Ceidwadwyr Cymreig yma yn siomedig hefyd, wrth i’w maniffesto ar gyfer 2021 nodi eu gobeithion i weld cronfa ffyniant gyffredin y DU yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ac yn codi'r gwastad yng Nghymru gyfan. Flwyddyn ar ôl y maniffesto hwn, mae anghydraddoldeb ac amddifadedd wedi gwaethygu. Dair blynedd i mewn i’w thymor a chwe blynedd ar ôl Brexit, ni all Llywodraeth y DU fynegi na sicrhau unrhyw fanteision clir i Gymru. Mae arnom angen setliad ariannu gonest, ymgysylltu datganoledig, a ffocws ar gyflawni yn hytrach na chyhoeddiadau deniadol.
Mae agenda ffyniant bro’r DU yn atal Llywodraeth Cymru rhag y gwaith o reoli’r gronfa ffyniant gyffredin, gyda dyraniadau’n cael eu gwneud i ardaloedd awdurdodau lleol yn seiliedig ar gynlluniau buddsoddi gyda chymeradwyaeth yn cael ei rhoi gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Mae hyn yn fwriadol yn osgoi trosolwg democrataidd y Senedd. Yn y bôn, mae egwyddor yn y fantol yma: dylai penderfyniadau ar gyfer Cymru gael eu gwneud gan Gymru. Senedd Cymru, sydd wedi’i hethol yn ddemocrataidd, a ddylai benderfynu sut i wario'r ychydig arian sydd ar ôl. Lle mae problem, ymddengys mai ateb Llywodraeth y DU bob amser yw datrysiad clytiog sy’n gwasanaethu carfan fach o’r boblogaeth. Nid oes gan Lywodraeth y DU syniadau ar ôl—heblaw canoli pwerau nad oes ganddynt—ac maent yn eistedd ar eu dwylo wrth i'r economi y maent yn gyfrifol amdani fethu gweithio i aelwydydd a busnesau nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, dylai'r neges hon fod wedi cael ei chlywed amser maith yn ôl. Llywodraeth y DU a’i haddawodd, wedi’r cyfan. Ni fyddwn byth yn rhoi'r gorau i'w hailadrodd, a byddwn bob amser yn eu hatgoffa ohoni: 'Heb fod geiniog ar ein colled, heb golli unrhyw bŵer'.