Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 25 Mai 2022.
O'r gorau. Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cynnig hwn heddiw a'r cyfle y mae'n ei roi inni drafod mater hollol hanfodol. Er gwaethaf ymrwymiadau niferus gan Lywodraeth y DU na fyddwn geiniog yn waeth o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU—ac mae hyn yn ffaith—wedi methu anrhydeddu ei haddewid i ddarparu arian yn lle cronfeydd strwythurol a buddsoddi'r UE yn llawn, gan adael ein cymunedau a'n busnesau dros £1 biliwn yn waeth eu byd o ganlyniad i hynny. A byddwn yn cymeradwyo i fy nghyd-Aelodau y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais mewn ymateb i gais gan Paul Davies ar y mater hwn ychydig wythnosau'n ôl, sy'n nodi'r manylion a'r cyfrifiadau, os mynnwch, ar gyfer hynny.
Ers 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i greu'r model cryfaf posibl ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ôl-UE yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch enfawr i Huw Irranca-Davies am ei waith a'i arweinyddiaeth yn y maes penodol hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd wedi gwneud ymdrechion mynych i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y cynlluniau hyn, ond ni chynigiodd y Llywodraeth honno unrhyw fath o drafodaeth ystyrlon gyda ni tan bythefnos yn unig cyn cyhoeddi prosbectws y gronfa ffyniant gyffredin. Ac ni fyddai consesiynau wedi'u gwneud bryd hynny oni bai am y trafodaethau dwys y cymerasom ran ynddynt ar yr adeg honno ac mae Llywodraeth y DU bellach o leiaf yn cydnabod yn ei chynlluniau pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth ranbarthol a'r trefniadau partneriaeth presennol sydd gennym yng Nghymru.
Fodd bynnag, ni allwn gefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i fabwysiadu model dosbarthu cyllid sy'n ailgyfeirio cronfeydd datblygu economaidd i ffwrdd o'r ardaloedd lle y ceir y tlodi mwyaf dwys. Ac rwyf am ailadrodd hynny, oherwydd dyma y mae argymhellion Llywodraeth y DU yn ei wneud: maent yn ailgyfeirio cronfeydd economaidd oddi wrth ardaloedd lle y ceir y tlodi mwyaf dwys. Pa Lywodraeth fyddai'n gwneud y dewis hwnnw? Mae ei strwythur yn methu'n lân â hyrwyddo achos cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ac nid yw'n pasio unrhyw fath o brawf y byddai Llywodraeth Cymru yn ei osod ar gyfer y math hwn o wariant. Ond yn fy marn i, mae hefyd ymhell o fod yn pasio prawf codi'r gwastad y byddai Llywodraeth y DU am ei osod ar ei chyfer ei hun.
Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn datganoli'n fwy lleol, ond gadewch inni fod yn glir iawn: nid oes unrhyw gyllid na phŵer i wneud penderfyniadau'n cael ei ddatganoli. Rhaid i awdurdodau lleol Cymru baratoi eu cynlluniau, ond cânt eu hasesu wedyn gan weision sifil Whitehall a phenderfynir arnynt gan Weinidogion y DU yn Llundain.
Mae ein cymunedau gwledig hefyd yn dioddef o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU. Wrth ddarparu arian newydd yn lle arian yr UE ar gyfer ffermio, mae Llywodraeth y DU yn didynnu derbyniadau'r UE sy'n ddyledus i Gymru am waith a oedd yn rhan o raglen datblygu gwledig 2014-20. Ac fel y clywsom, yn ymarferol mae hynny'n golygu bod cymunedau gwledig Cymru £243 miliwn yn waeth eu byd na phe baem wedi aros yn yr UE. Ffaith, unwaith eto.
Mae'r broses gyfan wedi bod yn wers druenus ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn camu i feysydd a ddatganolwyd gyda'r fath ddiofalwch ac mewn modd mor anwybodus. Mae Llywodraeth y DU wedi amharchu setliad datganoli Cymru yn sylfaenol drwy'r broses hon, ac mae'n defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i fynd â chyllid a phenderfyniadau oddi wrth Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon, gan danseilio, mae'n rhaid imi ddweud, hyd yn oed eu Haelodau Ceidwadol Cymreig eu hunain o'r Senedd yn y broses.
Mae gennym nifer o enghreifftiau o lle y cafodd pwerau a ddatganolwyd i Gymru eu tanseilio gan Lywodraeth y DU, a lle mae'n fwriadol yn sathru ar ddatganoli yng Nghymru. Mae'r gronfa ffynant bro ar gyfer y DU gyfan yn cymryd lle cronfa'r trefi yn Lloegr, y byddai Llywodraeth Cymru wedi cael symiau canlyniadol Barnett yn ei sgil yn flaenorol i gefnogi ein blaenoriaethau yma yng Nghymru. Felly, nid arian newydd yw'r gronfa. Ni fyddai'r un awdurdod lleol yng Nghymru yn cael sicrwydd o gyllid o ffrwd ariannu gystadleuol Llywodraeth y DU.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hethol yn ddemocrataidd i arwain ar bolisïau mewn meysydd datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn gweinyddu rhaglenni ar gyfer y DU gyfan megis cyfleusterau pêl-droed neu dennis llawr gwlad drwy drydydd partïon, gan osgoi craffu yma. Ac mae cronfa bwyd môr y DU, sy'n werth £100 miliwn, sydd â'r nod o gefnogi pysgodfeydd y DU a'r sector bwyd môr, unwaith eto'n cael ei gweinyddu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, gan fethu'n llwyr â deall neu ddiwallu anghenion penodol y sector yma yng Nghymru.
Etholwyd Llywodraeth Cymru i lywodraethu ar faterion datganoledig, a byddwn yn parhau i frwydro dros hawl y Senedd hon i gadw ei rôl ddemocrataidd mewn buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol. Caiff y Senedd ei hethol gan bobl Cymru i graffu, ac yn y pen draw, i awdurdodi gwariant gan Lywodraeth Cymru. Ond mae Llywodraeth y DU bellach yn creu ffrwd gyfochrog o weithgarwch sydd y tu allan i'r oruchwyliaeth ddemocrataidd hon, ac mae'n anochel na fydd yn cael yr un math o ffocws yn San Steffan ag y byddai'n ei gael yma yn y Senedd. Bydd camu heibio i Lywodraeth Cymru a'r Senedd yn arwain at ddyblygu darpariaeth ledled Cymru, gan gymylu atebolrwydd, creu bylchau ariannu mewn sectorau, a methu sicrhau gwerth cyhoeddus am arian cyhoeddus.
Mae cael llai o lais dros lai o arian yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ym myd busnes, addysg a'r trydydd sector benderfyniadau anodd i'w gwneud, ac rydym wedi clywed am rai o'r penderfyniadau anodd hynny y prynhawn yma. Bydd rhaglenni hanfodol a ddarperir gyda chymorth cronfeydd yr UE, ar adeg pan fyddwn yn gwella o'r pandemig ac yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, yn cael eu rhoi mewn perygl.
Rydym wedi rhannu'r gwersi a ddysgwyd gennym o weinyddu cronfeydd yr UE gyda Llywodraeth y DU, gan bwysleisio y bydd dull cenedlaethol mwy strategol yn sicrhau gwell canlyniadau i Gymru. Ond mae wedi methu gwrando ac yn hytrach mae'n parhau â dull tameidiog o fuddsoddi'n bennaf mewn prosiectau lleol llai nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â'n hamcanion ehangach, megis ein gwaith ar sero net neu drafnidiaeth integredig. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i liniaru cymaint o'r aflonyddwch ag y gallwn, ond Lywydd, ni ddylai'r Aelodau fod o dan unrhyw gamargraff o gwbl ynghylch y niwed y bydd y set hon o benderfyniadau yn ei wneud i'r cymunedau ledled Cymru sydd fwyaf o angen y cyllid hwn.