Diwygio'r Senedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:33, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'r cyhoedd eisoes wedi lleisio eu barn. Fe wnaethon nhw ethol Aelodau i'r Senedd hon mewn niferoedd digonol i sicrhau, fel y dywedodd Darren Millar, y diwygiad mwyaf i'r Senedd ers ei sefydlu. Mae'r rheini ohonom ni a safodd ar faniffestos o blaid diwygio yn edrych ymlaen at gyflawni'r broses hon.