Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y camau a gymerwyd i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru mae ymrwymiad i ddarparu cymorth ariannol i newyddiaduraeth sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Bydd y cymorth hwnnw yn parhau dros dair blwyddyn ariannol, fel y cadarnhawyd yn y cytundeb cydweithredu.