Plas Menai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 7 Mehefin 2022

Wel, Llywydd, gadewch imi fod yn glir: nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi preifateiddio'r ased pwysig hwn. Rydym am weld y ganolfan yn datblygu yn y ffordd dwi wedi ei ddisgrifio, gan symud y tu hwnt i'r defnydd tymhorol sydd yn canolbwyntio yn bennaf ar weithgarwch dŵr. Wrth wneud hynny, rydw i a'r Gweinidog yn disgwyl i ddatblygiad gael ei drafod yn ofalus gyda'r gweithlu lleol a pherchnogaeth y ganolfan i'w chadw ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.