Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i'r agenda heddiw. Yn hytrach na datganiad ar COVID-19, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.