Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf chi ynghylch gwasanaethau offthalmoleg—ac, yn arbennig, roeddech chi'n sôn am ddirywiad macwlaidd gwlyb—yn amlwg, mater i'r bwrdd iechyd yw sicrhau bod y triniaethau yn cael eu rhoi mewn da bryd. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd hynny.
Fe wnaf yn sicr ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ysgrifennu atoch chi os oes ganddo unrhyw wybodaeth arall y gallai ef ei rhoi i chi yn ychwanegol i'r hyn sydd yn yr ateb i'ch cwestiwn ysgrifenedig.