Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 7 Mehefin 2022.
Wel, nid wyf i'n credu bod hyn yn ymwneud â diffyg tryloywder. Rwy'n ymwybodol bod gwybodaeth wedi'i chasglu drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac nid wyf i'n credu y dylai hynny gael ei ystyried yn anhryloyw o gwbl. Yn amlwg, mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio'n agos iawn ac wedi buddsoddi ecwiti drwy Fanc Datblygu Cymru yn yr A465, ac mae'r buddsoddiad yn brif gonglfaen, mewn gwirionedd, ein hymdrechion i sicrhau bod cynlluniau'n hyrwyddo budd y cyhoedd, yn enwedig cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol.