Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Ar ran Llywodraeth Cymru, mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i’r Senedd heddiw. Wrth wneud hynny, hoffwn i ddiolch i’n holl bartneriaid cymdeithasol—cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a’r undebau llafur yng Nghymru—am eu holl gyfraniadau at y gwaith o ddatblygu’r ddeddfwriaeth bwysig hon.