5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 7 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:10, 7 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn y cyfarfod teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, mae prif weithredwr y GIG wedi argymell y dylid ymestyn statws ymyriad wedi'i dargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y tu hwnt i faterion iechyd meddwl a llywodraethu hyd at gynnwys Ysbyty Glan Clwyd, gan ganolbwyntio yn benodol ar y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd, ac rwyf innau wedi derbyn y cyngor hwnnw. Nid oedden nhw'n awgrymu ein bod yn rhoi Betsi yn ôl mewn mesurau arbennig.

Felly, fe fyddwn ni'n sicrhau y bydd yr arbenigedd newydd clinigol ac ymarferol allanol ychwanegol sylweddol yn cael ei roi ar waith i sicrhau ein bod ni'n gweld newid cynaliadwy a gwelliannau yn ansawdd y gwasanaeth yn ymsefydlu. Fel hyn, fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau gyda'r bwrdd iechyd yn hytrach nag amharu ar y bwrdd iechyd. Fe wnaethpwyd y penderfyniad yn unol â'r fframwaith uwchgyfeirio ac mae'n adlewyrchu pryderon difrifol am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu a'r cynnydd sydd wedi nodweddu Ysbyty Glan Clwyd. Mae fy mhenderfyniad i wedi cael ei fynegi i gadeirydd y bwrdd iechyd.

Yn gyntaf, gadewch i mi ymdrin â mater llywodraethu, arwain a goruchwylio Ysbyty Glan Clwyd. Mae hi'n amlwg fod yr heriau sy'n wynebu Ysbyty Glan Clwyd ar hyn o bryd yn gofyn am ymyriad penodol i gefnogi newid diwylliannol a hyrwyddo arweinyddiaeth ar bob lefel. Rwyf i yn cyfarwyddo Gwelliant Cymru felly, y gwasanaeth gwella i GIG Cymru, i weithio gyda'r bwrdd iechyd i ddod ag arbenigedd datblygu clinigol a sefydliadol allanol i'r ysbyty. Nod Gwelliant Cymru yw cefnogi'r gwaith o greu cyfundrefn iechyd a gofal o'r ansawdd gorau i Gymru, fel y bydd pawb yn gallu cael gofal sy'n ddiogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle a'r amser priodol. Fe hoffwn i bwysleisio nad yw hyn yn adlewyrchu o gwbl ar waith caled y staff yn Ysbyty Glan Clwyd, ond mae gwir angen y ffynhonnell hon o gymorth a chefnogaeth allanol i ymgorffori'r newid sydd ei angen ar fyrder, ac mae angen i ni wneud hyn yn gyflym.

Yn ail, mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael cyfnod heriol ers i'r gwasanaeth gael ei ganoli. Nid yw hynny'n golygu mai camgymeriad oedd y penderfyniad i ganoli. Yn dilyn cyfres o bryderon a godwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb yn gyflym ac mae cynnydd wedi bod mewn nifer o feysydd, ond mae'r gwasanaeth yn parhau i fod yn fregus. Bu rhai digwyddiadau difrifol dros y misoedd diwethaf ac nid yw manteision newidiadau diweddar wedi dod i'r amlwg eto. Penodwyd arweinydd clinigol newydd ond nid yw wedi dechrau yn ei swydd eto. Fe fydd fy swyddogion i'n parhau i fonitro gweithrediad y cynllun gweithredu o leiaf ddwywaith y mis.

Yn drydydd, fe gafodd adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ei ddynodi yn wasanaeth y mae angen ei ddiwygio yn sylweddol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rydym ni wedi sicrhau bod £3 miliwn ar gael i'r bwrdd iechyd ar gyfer y chwe nod lleol ar gyfer y rhaglen gofal brys a gofal argyfwng. Rwyf i wedi cyfarwyddo arweinwyr clinigol o'r rhaglen genedlaethol i weithio yn agos gyda'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gan AGIC.

Yn bedwerydd, iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth hwn, yn ddi-os, mewn sefyllfa lawer gwell na'r un a aeth i fesurau arbennig. Ond, er y cynnydd sydd wedi bod, mae yna lawer mwy i'w wneud eto, yn enwedig o ran newid diwylliant, ac fe fydd hynny'n cymryd amser. Yn dilyn trafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rwyf i'n gofyn i'r bwrdd iechyd symud yn gyflym i sicrhau bod tîm arweinyddiaeth parhaol ar waith, a datblygu cynllun recriwtio cadarn i leihau nifer y swyddi gwag a'r defnydd o staff dros dro. Mae'n rhaid i ni wneud hwn yn wasanaeth sy'n gynaliadwy. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gomisiynu asesiad annibynnol o gynaliadwyedd y cynnydd sydd wedi bod yn unol â'r adolygiadau iechyd meddwl amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe arweinir goruchwyliaeth weinidogol o'r trefniadau hyn gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.